Faint o aelodau'r maes sydd wedi darllen y gyfrol hon, enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod eleni?
Ron i'n meddwl ei bod hi'n gyfrol wych, ac ymhlith y pethau gorau imi eu darllen yn Gymraeg ers tro byd. Mae'r nofel yn ymddangosiadol syml, a di-gyffro yn seiliedig ar fyfyrdodau hen wr 90 oed heb fawr o ddeialog na datblygiad plot traddodiadol fel y cyfryw.Ond mae rhywun yn cael ei dynnu mewn i stori wirioneddol fawr sydd yn ymdrin a natur realiti, perthynas ag amser, a rol dyn a natur.
Mae teitl y nofel : Y Trydydd Peth, yn cyfeirio at y trydydd peth anhysbys hwnnw sydd yn creu dwr, yr elfen gudd honno sydd yn ychwanegol i hydrogen ac ocsigen: ac ymchwil George Owens i ganfod y trydydd peth cyfrin hwnnw yw hanfod y nofel hon.
Mae'r nofel yn tynnu'n groes i'r ymlyniad Cymreig at dir ac yn ein tywys ni'n nol i'r cyfnod Celtaidd a phwyslais y Celtiaid ar sancteiddrwydd dwr. Yn wir, talu gwrogaeth i'r Afon Ddyfrdwy fel math o dduwies Geltaidd y mae George Owens trwy gydol y nofel: duwies sy'n gallu bod yn hynod o hael a hawddgar ond duwies sydd hefyd yn gallu bod yn ddychryn i gyd ac yn gallu meddiannu bodau dynol yn gorff ac enaid. Mae popeth arall ym mywyd George Owens, boed yn wraig, neu'n deulu neu'n ffrindiau oll yn dod yn eilbeth i'r dduwies hon. A champ y nofelydd ydi ein hargyhoeddi mai fel hyn y dylai hi fod yn hanes y cymeriad dan sylw, nad oedd modd iddo fyw fel arall. Chwip o nofel gyda'r sgwennu ei hun yn llifo megis afon hefyd.