Y Trydydd Peth

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Trydydd Peth

Postiogan aled g job » Gwe 21 Awst 2009 12:31 pm

Faint o aelodau'r maes sydd wedi darllen y gyfrol hon, enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod eleni?

Ron i'n meddwl ei bod hi'n gyfrol wych, ac ymhlith y pethau gorau imi eu darllen yn Gymraeg ers tro byd. Mae'r nofel yn ymddangosiadol syml, a di-gyffro yn seiliedig ar fyfyrdodau hen wr 90 oed heb fawr o ddeialog na datblygiad plot traddodiadol fel y cyfryw.Ond mae rhywun yn cael ei dynnu mewn i stori wirioneddol fawr sydd yn ymdrin a natur realiti, perthynas ag amser, a rol dyn a natur.

Mae teitl y nofel : Y Trydydd Peth, yn cyfeirio at y trydydd peth anhysbys hwnnw sydd yn creu dwr, yr elfen gudd honno sydd yn ychwanegol i hydrogen ac ocsigen: ac ymchwil George Owens i ganfod y trydydd peth cyfrin hwnnw yw hanfod y nofel hon.

Mae'r nofel yn tynnu'n groes i'r ymlyniad Cymreig at dir ac yn ein tywys ni'n nol i'r cyfnod Celtaidd a phwyslais y Celtiaid ar sancteiddrwydd dwr. Yn wir, talu gwrogaeth i'r Afon Ddyfrdwy fel math o dduwies Geltaidd y mae George Owens trwy gydol y nofel: duwies sy'n gallu bod yn hynod o hael a hawddgar ond duwies sydd hefyd yn gallu bod yn ddychryn i gyd ac yn gallu meddiannu bodau dynol yn gorff ac enaid. Mae popeth arall ym mywyd George Owens, boed yn wraig, neu'n deulu neu'n ffrindiau oll yn dod yn eilbeth i'r dduwies hon. A champ y nofelydd ydi ein hargyhoeddi mai fel hyn y dylai hi fod yn hanes y cymeriad dan sylw, nad oedd modd iddo fyw fel arall. Chwip o nofel gyda'r sgwennu ei hun yn llifo megis afon hefyd.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Re: Y Trydydd Peth

Postiogan cwrwgl » Gwe 04 Medi 2009 12:46 pm

Cytuno - rwyt yn crynhoi yn dda iawn uchod.
O'n i'n ei gweld fel portread cynnil o (ac yn cwestiynnu beth yw) natur gwallgofrwydd hefyd.
Wedi ei mwynhau yn ofnadwy. Trysor o lyfr bychan pwysig iawn gyda naws arbennig ac unigryw iddi. Mi gadwa i hi ar y silff gyda "O Tyn y Gorchydd" a "Teulu Bach Nantoer".
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: Y Trydydd Peth

Postiogan Leusa » Llun 21 Medi 2009 12:42 pm

Mae'n biti, ond nes i ddim ei mwynhau hi.
'Dwi'n meddwl fod ei phortread o'r hen ŵr yn wych - mae'n gymeriad byw iawn. Mae'n amlwg hefyd fod na lot o waith ymchwil wedi mynd i'r llyfr ynglŷn â lleoliadau, a natur ac ati - ac mae hynny ynghyd â safon yr iaith a dywediadau ect yn gret.
Ond doni jyst methu cael gafael ar y nofel - doedd na'm digon o stori, ac roedd ei obsesiwn efo bod bia'r Ddyfrdwy wedi mynd ar fy nyrfs i erbyn canol y llyfr. Dwi'n dallt fod o'n fwriadol er mwyn pwysleisio ei wallgofrwydd, ond odd o'n ormod o ail-adrodd. A nesh i dal ddim dallt pam mai fo oedd bia'r bali afon yn y diwedd.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Re: Y Trydydd Peth

Postiogan Hazel » Llun 21 Medi 2009 2:23 pm

Diolch yn fawr, Leusa, am y sylwadau. Bydd fy nghymorthwyo fi i benderfynu. Rwyf newydd prynu un llyfr y dymunaf nad oeddwn i wedi. Bydda' i'n meddwl ddwywaith am hwn.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron