Tudalen 1 o 1

Tan ar y Comin

PostioPostiwyd: Gwe 04 Medi 2009 3:15 pm
gan Orcloth
Dwi newydd ddarfod darllen hwn, ac un ardderchog oedd o hefyd.
Ar ddiwedd y stori, mae T Llew Jones yn awgrymu bod rhan arall i ddod yn hanes Tim Boswell a theulu Dol Nant. Ydi rhywun yn gwybod os oedd yna lyfr arall yn dilyn hwn, plis? Dwi di trio chwilio drwy'r we, ond dwi ddim callach. Gobeithio fedrith rhywun ar y maes fy helpu - diolch!

Re: Tan ar y Comin

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 4:15 am
gan Emma Reese
Mi wnes i ofyn yr un cwestiwn flynyddoedd yn ôl hefyd ar ôl darllen y nofel honna! Yr ateb ges i oedd "nac oes" yn anffodus.
viewtopic.php?f=9&t=18180&p=274736#p274736

Baswn i isio gwybod beth ddigwyddod i Tim wedyn.

Re: Tan ar y Comin

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 8:09 am
gan Orcloth
A, diolch yn fawr i ti Emma am fy nghyfeirio at yr union bwnc ag ysgrifenaist ti amdano mwy na thair blynedd yn ol!
Dwi'n cytuno hefo chdi, mi fysa wedi bod yn neis cael sequel i'r stori yn bysa? Tybed neith rhywun sydd a dawn ysgrifennu afael yn yr awennau a dechrau arni? :D