TYNER YW'R LLEUAD HENO
Drama Newydd gan MEIC POVEY
Gwyn fyd Dafydd: yn ugain oed, yn fyfyriwr yng Nghaerdydd, canolbwynt emosiynol y Cymry ifanc sydd ohoni, ac ymhell o'r filltir sgwâr ormesol ar lethrau Eryri mae o mor hoff o ramantu yn ei chylch pan yn codi bys bach ym mariau a thafarndai’r brifddinas.
Dychwela Dafydd i fwrw Sul tyngedfennol yng nghwmni ei deulu i ddathlu pen-blwydd Prysor, y taid mae'n ei garu gymaint. Teulu clòs; pawb yn byw yng nghegau a phocedi ei gilydd, ac yn rhannu a gwarchod cyfrinach dywyll a wthiwyd i ben pellaf eu hymwybyddiaeth – cyfrinach a gadwyd rhag Dafydd ar hyd y blynyddoedd.
Mared – dieithryn a ddaw i'w ganlyn, a dylanwad dinistriol os gwelwyd un erioed – sy'n gyfrifol am ysgwyd Dafydd o'i gwsg hir, gan ddinoethi'r gwirionedd erchyll amdano yn y broses.
Onid ydyn ni wedi clywed hyn o'r blaen - lot o weithiau?