Oes 'na unrhywun sy'n gwybod y gerdd "Yr Iâr a'i Hwy"? Mae 'na naw pennill ynddi. Dyma'r cyntaf ac yr olaf. Dw i eisiau'r gweddill. Diolch.
Un bore braf, un dydd o haf,
A gobaith yn llenwi'r wawr,
Ar bererindod i waelod cae
Aeth iâr, ac eisteddodd i lawr.
'Fan hyn', ebe hi, a'i chalon yn mynd,
'Fan hyn', meddai wrthi ei hun,
'Lle na ddaw chwilorwr na lleidr ar dro
Dodwyaf un wy, dim ond un ...'
'Alas ! O fy wy !' ebe'r iâ,
Gan edrych i'r nefoedd yn syn',
A'r dagrau fel marblis yn powlio i lawr
A chronni o'i chwmpas yn llyn.
Ciliodd yn bendrist i fagddu'r cwt ieir
A'i chalon ar dorri yn ddwy,
Ac yno hi siglai fel meddwyn drwy'r nos,
Dan ochain, 'Fy wy, O ! fy wy !'