gan Kez » Sad 19 Medi 2009 10:22 pm
Nid un Awst / yw ein hystyr
dnst // (t)nst
Mae'r cytseiniaid yn cyfateb yn y ddwy ran.
Mae st yn cal eu gweud fel sd ar lafar felly - Awsd yn cynghaneddu ag hysdyr
Ma'r t (d) yn Awst yn y rhan gyntaf yn cal ei benthyg neu'i hadio at yr ail ran - nid un Awst / (t) yw ein hystyr - y t (d) sy'n cal ei benthyg i'r ail ran sy'n cynghaneddu a'r d yn Nid, fi'n meddwl.
Mae'r n yn Nid yn cal ei galw'n n-wreiddgoll a ti'n gallu anwybyddu hwnna.
Wi ddim yn gwpod pam nag yw r yn cal ei hateb ar ddiwedd 'hystyr' - ma ddi rwpath i neud bthdi'r acen yn cwmpo rwla ne'i gilydd.
Y ffordd rwydda ifi gofio fel ma 'croes o gyswllt' yn gwitho yn y ffordd semlaf yw cofio'r darn:
'Beibl i bawb // o bobol y byd'
b bl b (b) // b bl b (d)
Golygwyd diwethaf gan
Kez ar Sad 10 Hyd 2009 4:42 pm, golygwyd 1 waith i gyd.