Taliesin – chwilio am olygyddion
Mae Taliesin ymhlith cylchgronau llenyddol amlycaf Cymru, ac fe’i cyhoeddir dair gwaith y flwyddyn gan yr Academi gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.
Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ym 1961 dan olygyddiaeth Gwenallt ac ers hynny, dan olygyddiaeth sawl enw amlwg arall ym myd llenyddiaeth Cymru, mae’r cylchgrawn wedi mynd o nerth i nerth. Mae Taliesin yn cynnwys cerddi, erthyglau, straeon byrion, ysgrifau, adolygiadau a chyfieithiadau i’r Gymraeg o lenyddiaethau eraill. Ymhlith y cyfranwyr, y mae llenorion pwysicaf y dydd.
Yn sgil penderfyniad golygyddion presennol Taliesin, Manon Rhys a Christine James, i roi'r gorau i'r gwaith ar o^l 10 mlynedd, mae’r Academi’n chwilio am berson/au i olygu’r cylchgrawn. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys yr holl waith golygyddol a rheoli’r ochr gynhyrchu. Yr Academi sydd yn gyfrifol am farchnata, gweinyddu a dosbarthu’r cylchgrawn.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion neu dimoedd o ddau / ddwy. Bydd y sawl a benodir yn meddu ar sgiliau iaith ardderchog ynghyd â gwybodaeth a phrofiad o faes llenyddiaeth Gymraeg a beirniadaeth lenyddol.
Rhaid i ymgeiswyr anfon y manylion canlynol:
• CV llawn
• Enw a manylion cyswllt dau ganolwr
• Amlinelliad cryno (tua 500 gair) o’u gweledigaeth ar gyfer y cylchgrawn.
Dyddiad cau: 16 Hydref 2009
Cynhelir cyfweliadau ar 10 Tachwedd 2009. Disgwylir i’r ymgeiswyr gyflwyno syniadau pellach am ddarpar rifyn yn y cyfweliad hwn.
Ffi: i’w drafod
Lleoliad gwaith: disgwylir i’r ymgeisydd/ ymgeiswyr llwyddiannus weithio gartref ar eu hoffer eu hunain. Cynhelir cyfarfodydd achlysurol yng Nghaerdydd ac Aberystwyth.
Cytundeb: ar ôl cyfnod prawf cynigir cytundeb 2 flynedd tan ddiwedd y cyfnod nawdd tair blynedd, sef Mawrth 2012.
Am ragor o fanylion cysylltwch â'r Academi ar 029 2047 2266 / taliesin@academi.org
Dylid anfon ceisiadau at:
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org
http://www.academi.org
http://taliesin.academi.org/
Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.