Taliesin - chwilio am olygyddion

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Taliesin - chwilio am olygyddion

Postiogan Academi » Mer 23 Medi 2009 9:52 am

Taliesin – chwilio am olygyddion

Mae Taliesin ymhlith cylchgronau llenyddol amlycaf Cymru, ac fe’i cyhoeddir dair gwaith y flwyddyn gan yr Academi gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.

Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ym 1961 dan olygyddiaeth Gwenallt ac ers hynny, dan olygyddiaeth sawl enw amlwg arall ym myd llenyddiaeth Cymru, mae’r cylchgrawn wedi mynd o nerth i nerth. Mae Taliesin yn cynnwys cerddi, erthyglau, straeon byrion, ysgrifau, adolygiadau a chyfieithiadau i’r Gymraeg o lenyddiaethau eraill. Ymhlith y cyfranwyr, y mae llenorion pwysicaf y dydd.

Yn sgil penderfyniad golygyddion presennol Taliesin, Manon Rhys a Christine James, i roi'r gorau i'r gwaith ar o^l 10 mlynedd, mae’r Academi’n chwilio am berson/au i olygu’r cylchgrawn. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys yr holl waith golygyddol a rheoli’r ochr gynhyrchu. Yr Academi sydd yn gyfrifol am farchnata, gweinyddu a dosbarthu’r cylchgrawn.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion neu dimoedd o ddau / ddwy. Bydd y sawl a benodir yn meddu ar sgiliau iaith ardderchog ynghyd â gwybodaeth a phrofiad o faes llenyddiaeth Gymraeg a beirniadaeth lenyddol.

Rhaid i ymgeiswyr anfon y manylion canlynol:
• CV llawn
• Enw a manylion cyswllt dau ganolwr
• Amlinelliad cryno (tua 500 gair) o’u gweledigaeth ar gyfer y cylchgrawn.

Dyddiad cau: 16 Hydref 2009

Cynhelir cyfweliadau ar 10 Tachwedd 2009. Disgwylir i’r ymgeiswyr gyflwyno syniadau pellach am ddarpar rifyn yn y cyfweliad hwn.

Ffi: i’w drafod
Lleoliad gwaith: disgwylir i’r ymgeisydd/ ymgeiswyr llwyddiannus weithio gartref ar eu hoffer eu hunain. Cynhelir cyfarfodydd achlysurol yng Nghaerdydd ac Aberystwyth.
Cytundeb: ar ôl cyfnod prawf cynigir cytundeb 2 flynedd tan ddiwedd y cyfnod nawdd tair blynedd, sef Mawrth 2012.

Am ragor o fanylion cysylltwch â'r Academi ar 029 2047 2266 / taliesin@academi.org

Dylid anfon ceisiadau at:

Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org
http://www.academi.org
http://taliesin.academi.org/

Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Yr Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol a Chymdeithas Llenorion Cymru
http://www.academi.org
Academi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Maw 13 Gor 2004 12:23 pm

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron