Cerflun Angharad Tomos

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cerflun Angharad Tomos

Postiogan nicdafis » Sad 26 Medi 2009 2:49 pm

Newydd ddarllen ar wefan y BBC am gerflun newydd a Angharad Tomos.

Mae cerflun o un o awduron Cymru, Angharad Tomos, wedi cael ei ddadorchuddio ddydd Iau. [..]

Mae'r cerflun yn ei dangos hi'n hau ar ei gliniau ac arno mae dyfyniad DJ Williams: "Hau'r had yw fy ngwaith i."

Yr arlunydd yw Katie Scarlett Howard a'r gwaith yw'r trydydd mewn cyfres o chwech sy'n coffáu menywod enwog.

Mae'r chwe cherflun wedi cael eu gwneud yn ei stiwdio ger Yr Wyddgrug.

Roedd y dadorchuddio'n rhan o gynllun elusen Ymddiriedolaeth Gerddi'r Agoriad.


Mae'n swnio'n ddiddorol, ond mae'r llun yn yr erthygl yn rhy fach i weld manylion. Oes 'na lun deca o'r gwaith arlein rhywle? Neu ar gamera rhywun?

Diolch ymlaen llaw.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Cerflun Angharad Tomos

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 26 Medi 2009 4:34 pm

O'n i yng Nglynllifon dwrnod o blaen digwydd bod, a dwi bron yn siŵr fod fy nghariad wedi tynnu llun o'r cerflun. Wna i jecio a phostio'r llun yma. Doedd o'n edrach ddim byd tebyg i Angharad Tomos chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron