Mae cerflun o un o awduron Cymru, Angharad Tomos, wedi cael ei ddadorchuddio ddydd Iau. [..]
Mae'r cerflun yn ei dangos hi'n hau ar ei gliniau ac arno mae dyfyniad DJ Williams: "Hau'r had yw fy ngwaith i."
Yr arlunydd yw Katie Scarlett Howard a'r gwaith yw'r trydydd mewn cyfres o chwech sy'n coffáu menywod enwog.
Mae'r chwe cherflun wedi cael eu gwneud yn ei stiwdio ger Yr Wyddgrug.
Roedd y dadorchuddio'n rhan o gynllun elusen Ymddiriedolaeth Gerddi'r Agoriad.
Mae'n swnio'n ddiddorol, ond mae'r llun yn yr erthygl yn rhy fach i weld manylion. Oes 'na lun deca o'r gwaith arlein rhywle? Neu ar gamera rhywun?
Diolch ymlaen llaw.