Mae’r Academi, mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, yn chwilio am
SWYDDOG MAES LLENYDDIAETH GOGLEDD CYMRU
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol dros farchnata’r Academi a’i chynlluniau yng ngogledd Cymru. Bydd y swydd yn cynnwys un diwrnod yr wythnos yn gweithio fel gweinyddydd i Dŷ Newydd.
Bydd y prif ddyletswyddau fel a ganlyn:
• I fod yn gyfrifol am swyddfa’r Academi dros ogledd Cymru yn Nhŷ Newydd
• Marchnata’r Academi a’i gweithgareddau yng ngogledd Cymru. Sefydlu cysylltiadau llenyddol yn yr ardaloedd hyn, gan feithrin grwpiau a’u cynulleidfaoedd.
• Darparu newyddion cyson am weithgareddau’r gogledd i wefan a chylchlythyr electronig yr Academi.
• Cefnogi prosiectau llenyddol lleol.
• Sefydlu partneriaethau newydd.
Ar ran Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd (1 diwrnod yr wythnos)
• Trefnu Gŵyl Tŷ Newydd (bob yn ail flwyddyn)
• Marchnata – diweddaru’r wefan; cynnal a chadw’r cronfeydd gwybodaeth; gofalu am ddosbarthiant deunydd print. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo ar sawl agwedd o farchnata gan gynnwys dod â syniadau newydd i’r bwrdd er mwyn codi proffil y ganolfan.
Cyflog: cynigir cyflog cychwynnol o £16,000
Oriau: 37 awr yr wythnos, gyda rhai oriau yn angenrheidiol y tu allan i oriau arferol swyddfa
Lleoliad: Lleolir y swydd ar hyn o bryd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Fodd bynnag, yn y gorffennol sefydlwyd desgiau gwaith dros-dro o fewn siroedd eraill y gogledd.
Rhinweddau Angenrheidiol:
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Dealltwriaeth o ddiwylliant Gymraeg a Chymreig
• Y gallu i drefnu a marchnata yn effeithiol
• Trwydded yrru lân a defnydd o gar
• Y gallu i weithio’n effeithiol mewn swyddfa brysur, ac fel aelod o dîm
• Y gallu i weithio dan bwysau
• Dealltwriaeth o becynnau cyfrifiadurol, megis Excel a Word
Yr Academi yw’r Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol a Chymdeithas Llenorion Cymru. Am fanylion pellach ynglŷn ag amcanion a gweithgareddau’r Academi, ymwelwch â’n gwefan http://www.academi.org neu anfonwch amlen A4 barod atom.
Tŷ Newydd yw’r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol. Am wybodaeth bellach am Dŷ Newydd a’r cyrsiau a gynhelir ewch i’r wefan http://www.tynewydd.org.
Dylai ymgeiswyr anfon CV llawn, llythyr cais ac enw dau ganolwr, erbyn dydd Iau, 15 Hydref 2009 at:
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org http://www.academi.org
Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher 21 Hydref 2009