gan Dylan » Llun 14 Rhag 2009 5:21 pm
Darllenadwy tu hwnt; siwr mod i wedi'i darllen mewn un go mewn llai nag awr. Difyr iawn chwarae teg. Mae'r boi'n blydi arwr felly alla' i faddau mymryn bach o orwychu (dw i'n sinig; mae'r stwff am fercheta ac yfed cwrw yn 4 oed yn anodd ei gredu!). Ond mae'r disgrifiad o'i broblemau iechyd meddwl ac alcoholiaeth yn gwbl amrwd a, wel, gwych. Roedd yn benderfynol o sgrifennu llyfr nad oedd yn cynnwys unrhyw ddarnau boring, ac fe lwyddodd.