gan Gwyrosydd » Sad 05 Rhag 2009 8:30 pm
Nid oedd Dylan Thomas yn siarad Cymraeg, ond yn sicr roedd yn deall y Gymraeg gan iddo fyw am gyfnodau mewn ardaloedd oedd bron yn uniaith (Talsarn, Ceredigion er enghraifft) ac roedd nifer fawr o'i deulu agos yn siarad yr iaith.
Roedd gan Alan Llwyd erthygl ddifyr yn Barddas rhai blynyddoedd yn ol yn son am sut yr oedd yn defnyddio'r Gymraeg yn gelfydd iawn yn ei waith - er enghraifft, os y cofiaf yn iawn, roedd yn defnyddio y gair "time" tra'n siarad am y ser - ac roedd Alan Llwyd yn awgrymu ei fod yn gwybod digon am y Gymraeg i ddeall mai "time" oedd "am-ser" yn y Gymraeg.
Un rheg yw fy mhader i.