Os Dianc Rhai

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Conyn » Gwe 24 Hyd 2003 9:09 am

Lloerig a ddywedodd:Edrych ymlaen at y lansh heno - mae cael gwin am ddim allan o ddyweddi Gwen yn beth prin!


Ei dad neu'i frawd sy'n talu, galli di fentro
Tri pheth sy'n anodd 'nabod
Dyn, derwen a diwarnod...
Rhithffurf defnyddiwr
Conyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Sul 19 Hyd 2003 9:07 pm
Lleoliad: Dyfnderoedd y De

Postiogan Gwen » Gwe 24 Hyd 2003 10:11 am

Gwin am ddim? Oes wir?

Ond Lemsip fydd yr unig botel fydda i'n hitio. Dwi di clywed am ffreshyr's fflw, ond on i'm yn disgwyl bod yn rhaid mynd trwy bob ffreshyr chwaith (gad hi, Llewelyn - di bod yna yn barod... [celwydd]). Be di hyn rwan - y trydydd annwyd mewn mis? Dim gwin i mi felly :x . Ond mi gewch chi'n siar i y ffernols.

Fydd na fwyd hefyd i mi gael osgoi mynd allan o'r ty i brynu rwbath? Ta ydw i'n disgwyl gormod rwan?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Lloerig » Gwe 24 Hyd 2003 10:27 am

Peidiwch byth a barnu llyfr wrth ei glawr medda nhw yn Saesneg - tybed a fydda unrhywn un o gwbl yn prynu llyfrau Cymraeg tae hynny'n wir??? Ydy hwn yn edefyn ynddo'i hun o bosibl!?
"Bydd feiddgar hyd at wallgofrwydd"
Rhithffurf defnyddiwr
Lloerig
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Maw 07 Hyd 2003 7:17 am

Postiogan Gwen » Gwe 24 Hyd 2003 10:31 am

Dibynnu. Ai am glawr Os Dianc Rhai oeddat ti'n meddwl? Ella nad oes na ddigon o nofelau Cymraeg newydd i ni allu bod yn pici am y cloriau... Tybed?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan brenin alltud » Gwe 24 Hyd 2003 10:32 am

Lloerig a ddywedodd:Ydy hwn yn edefyn ynddo'i hun o bosibl!?


Ydi. Mae'r sefyllfa'n druenus o 'styried cyn gymaint o ddylunwyr da sy' yng Nghymru...
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Lloerig » Gwe 24 Hyd 2003 10:37 am

Gwen a ddywedodd: Ella nad oes na ddigon o nofelau Cymraeg newydd i ni allu bod yn pici am y cloriau... Tybed?


Sdim rhaid cael lot i fod yn dda does bosib? Safon nid nifer does ayb - i gyfieithu idiom arall eto fyth ...
"Bydd feiddgar hyd at wallgofrwydd"
Rhithffurf defnyddiwr
Lloerig
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Maw 07 Hyd 2003 7:17 am

Postiogan brenin alltud » Gwe 24 Hyd 2003 10:44 am

O'n i gyda llyfrwerthwr yma Nghaernarfon a hithe'n cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng y llyfre Cymraeg a'r rhai Saesneg; mae'n arswydus.

Mae gweisg Cymreig fel Seren a Parthian Books yn rhoi clorie matt, braf gyda dyluniad syml ond trawiadol ar'u rhai nhw - pam na all y gweisg Cymraeg neud r'un peth? Diffyg arian?

Siawns y gellid cael dyluniad neisach na'r un hen beth sy' ar y cloriau Cymraeg. Mae un neu ddau o rai neis 'di bod (Cadw Dy Ffydd, Brawd; O Tyn y Gorchudd; Gwrach y Gwyllt ('m bad); Cyfansoddiade :winc: ) pam na ellir gwneud hynny â'r rhan fwya'?
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Lloerig » Gwe 24 Hyd 2003 10:49 am

Mae'n siwr fod y cyfansoddiadau yn haeddu gwobr arbennig gan y babell celf a chrefft fel y gyfres o gloriau mwyaf ffiaiid erioed ... mae o'n egwyddor hollol sylfaenol gan y steddfod reit trwodd o'r 1940au boring i'r lliwiau llachar a'r strips lliwgar i'r streips boring - oni bai am un (Caerfyrddin 1974?) roddodd lun ar y clawr - ond rwan ma hwnnw'n sefyll allan fel rhwbath gwirion ... arddangosfa o gloriau'r steddfod - unwaith ca'i fy sgannar yn ol ella'i na'i drefnu un!!!
"Bydd feiddgar hyd at wallgofrwydd"
Rhithffurf defnyddiwr
Lloerig
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Maw 07 Hyd 2003 7:17 am

Postiogan Gwen » Gwe 24 Hyd 2003 10:55 am

Digon teg. Nid o ran egwyddor on i'n deud hynna. Jyst meddwl - fel darllenydd 'lly. Hynny ydi, nath y clawr y llyfr yma ddim dy rwystro di rhag ei brynu fo, naddo? Mi alla fod wedi gwneud tasa fo'n lyfr Saesneg (?) ond gan ei bod hi'n nofel Gymraeg, gan awdur roeddat ti'n gyfarwydd â'i waith o, ac am resymau eraill mwn, mi brynaist ti o. Fel finna. Dwi'm yn deud bod hyn yn iawn nac yn gwneud cyfiawnder â'r dalent sydd yn y maes. Jyst deud ella ei bod hi'n haws cael get awe hefo hi o ran llyfra Cymraeg?

Dwina hefyd yn licio cloriau mat - tan iddyn nhw gael eu crafu ( :drwg: )
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Lloerig » Gwe 24 Hyd 2003 11:07 am

Yn union. Dwi'n meddwl fod yna destun difyr yn fana sef y gwahaniaeth rhwng y profiad o ddarllen yn Gymraeg a darllen Saesneg. Dwi'n darllen cyfran helaeth o'r ffuglen a'r farddoniaeth sy'n cael ei gyhoeddi yn Gymraeg ac lot o gofiannau a beirniadaeth.

Yn Sesneg dwi'n darllen thrillers crap, ambell gyfrol o LENYDDIAETH GO IAWN, ac ychydig o farddoniaeth beirdd dwi'n gwybod mod i'n lecio.

Fydda hi'n gret medru cael digon o thrillers cymraeg i nghadw fi i fynd o un pen blwyddyn i'r llall ond does dim a dyna fo.

Dwi'n siwr ei fod o'n creu darllenwyr gwahanol iawn os wyt ti'n medru darllen llenyddiaeth gyfan iaith arbenng mewn cyfnod arbennig.

Dychmyga tasa na job yn mynd yn darlithi oar Lenyddiaeth GYmrage yr Unfed Ganrif ar Hgain - allwn i ddweud mod i wedi darllen y cwbl o leia!
"Bydd feiddgar hyd at wallgofrwydd"
Rhithffurf defnyddiwr
Lloerig
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Maw 07 Hyd 2003 7:17 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai