Iaith y de-ddwyrain yw (neu oedd) y Wenhwyseg. Dwi ddim yn gwybod am fawr neb sy'n ei siarad bellach - gwaetha'r modd, fe fuodd farw o'r tir bron yn llwyr cyn adfywiad y Gymraeg yn y Cymoedd. Un waith erioed glywais i fachan ifanc yn ei defnyddio - ar ol iddo fe wrando ar rywun yn siarad acen Cwmtawe (sef yr agosaf sydd ar gael heddiw, sbo), ar ol cwpwl o beints. Mae'n debyg taw felna oedd ei dadcu yn arfer siarad.
Ta beth, un o nodweddion y Wenhwyseg oedd y terfyniad 'a' am eiriau 'au'. Felly o 'borau' fe gei di bore/bora, yn dibynnu ar un o ba le wyt ti, ondife. 'Na'i ddim dy flino gyda mwy o hwn, a nagw i'n arbenigwr ta beth. Wmbod am unrhyw ddolenni arlein, ond gallet ti edrych yn llyfr Beth a Peter Wynn Thomas, 'Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyno'r Tafodiethoedd' am ragor o fanylion.
Cofia, does braidd neb 'ifanc' yn siarad iaith Cwm Tawe nawr, chwaith. Sniff. Cymraeg 'safonol/diflas' sy'n yr ysgolion, er bod hynny'n llawer gwell na dim Cymraeg o gwbl.
A dyn ddigon o hwnna
Mwy o wybodaeth/storiau/lincs da rhywun am yr hen acen yma?