Tudalen 1 o 1

Mr Blaidd, Llwyd Owen

PostioPostiwyd: Maw 09 Chw 2010 12:30 pm
gan løvgreen
O diar, dwi heb fod yma ers sbel, a gweld rwan ei bod hi'n ddistaw fel y bedd yma!!!

Ta waeth, dwi newydd orffen darllen campwaith naratif arall gan Llwyd Owen, sef Mr Blaidd. Mae gallu'r boi yma i ddweud stori afaelgar yn curo pawb arall sy'n sgwennu yn Gymraeg heddiw.

Mae'r iaith fymryn bach yn doji ambell waith, lle mae'n rhaid cyfieithu'r geiriau i'r Saesneg er mwyn dallt be sy genno fo (e.e. "gwarchod hunaniaeth" yn y frawddeg gynta un!), ac mae na un neu ddau typo annoying, ond oherwydd cryfder y sgwennu, y plot a'r ddeialog, dydi'r mân frychau hyn ddim ond yn pwysleisio mor wych ydi popeth arall am y nofel.

Prynwch, darllenwch, mwynhewch.

Re: Mr Blaidd, Llwyd Owen

PostioPostiwyd: Maw 09 Chw 2010 1:37 pm
gan sian
Dwi'n ei mwynhau hi hefyd ond fel ti'n dweud mae'r iaith braidd yn doji

Dau dditectif mewn caffi. Un ishe mynd i'r toilet ac yn dweud wrth y llall:
"Archeba di ar fy rhan"

O leia dair enghraifft o "arwyneb" lle fyddai "wyneb" yn fwy Cymreig o lawer.

Maen nhw'n dod ar draws rhywun yn cysgu'n ryff yn y ddinas - hwnnw'n siarad Cymraeg a wnaethon nhw jest cario mlaen - fyset ti'n disgwyl iddyn nhw ofyn "O lle ti'n dod? Be ti'n neud fan hyn? Wyt ti'n nabod Anti Lisi?"

Teimlo weithiau ei fod yn meddwl yn Saesneg

Ond mi dwi yn ei mwynhau hi!

Re: Mr Blaidd, Llwyd Owen

PostioPostiwyd: Maw 16 Chw 2010 12:26 pm
gan fREUd
Mi sgwennish i hwn chydig wythnosau yn ol o dan "beth ydych chi yn ddarllen"

Newydd orffen darllen Mr Blaidd - Llwyd Owen a mi faswn yn licio clywad be di barn pobl erill am hon. Dwi'n ffan o Llwyd ac mi wnesh i fwynhau y 3 llyfr dwytha yn uffernol - as in obsessd a methu disgwl i fynd adra i gario mlaen i ddarllen, a chael fy atgoffa o ddigwyddiadau'r llyfr yn ystod y dydd etc (siriys!!). Beth bynng, chafodd hon ddim cweit yr un effaith. Er mod i wedi ei mwynhau ac wedi ei darllen mewn chwinciad, roedd na rwbath yn fwy saff Ty Newydd(aidd) ella am y sgwennu. Ro'n i'n teimlo fod y cymeriada chydig yn ystrydebol ac amlwg, ac er i mi joio'r plot, mi ddoth hwnnw yn amlwg yn reit sydyn 'fyd. Dwn im. Dwi'n teimlo fatha bradwr braidd gan mod i'n ystyried fy hun yn ffan. Be da chi feddwl? (o'r llyfr 'lly, nid o fy statws fel bradwr).

Dwi'n cytuno efo'r iaith doji hefyd ac mae hi'n amlwg mai wedi cyfieithu yn syth o'r saesneg roedd Llwyd. gwd llyfr ddo :) Un arall wan pliiiiiis!

Re: Mr Blaidd, Llwyd Owen

PostioPostiwyd: Maw 23 Chw 2010 3:43 pm
gan Darth Sgonsan
nesh i fwynhau blas hon yn arw

Re: Mr Blaidd, Llwyd Owen

PostioPostiwyd: Gwe 05 Maw 2010 1:32 pm
gan sian
Dwi'n teimlo'n bach yn fflat ar ôl ei gorffen hi - roedd 'na ambell beth am y plot nad oedd yn dal dŵr yn fy meddwl i - ac er ei bod hi'n delio â phuteindra a chyffuriau a llofruddiaethau heddiw, doedd hi ddim wir yn fy nhynnu i i mewn i'r stori - roedd mwy o ofn croesi'r landing i'r toilet arna i ar ôl darllen Trysor Plasywernen, T Llew Jones.
Do'n i ddim wir yn gallu cydymdeimlo â neb.
O'n i ishe gwybod beth oedd yn digwydd ar y diwedd - ond o'n i'n disgwyl y byse rhai o'r pethe ymylol yn cael eu gwau i mewn i'r diwedd

Caersaint nesa!

Re: Mr Blaidd, Llwyd Owen

PostioPostiwyd: Sul 11 Ebr 2010 8:03 pm
gan Hogan
Wel, mi neshi wir fwynhau Mr Blaidd. Roeddwn i wedi edrych ymlaen at gael darllen y nofel yma gan mod i di mwynhau'r 3 arall yn arw. Roedd y plot yn afaelgar iawn. Dim llawer o ots gen i os ydi'r iaith braidd yn Saesneigaidd mewn deialog - onid ydio'n adlewyrchu'r ffordd mae pobl yn siarad bob dydd?!

Re: Mr Blaidd, Llwyd Owen

PostioPostiwyd: Sad 27 Tach 2010 11:06 am
gan ElinorSian82
Cytuno am lyfr Mr Blaidd. Doedd y plot ddim cystal a'i un dwetha. Darllenais i hynne mewn un darllenad ond efo hwn mi wnaeth hi cymryd ychydig yn hirach. Edrych ymlaen i'r un nesaf nawr. x