gan Meg » Llun 27 Hyd 2003 11:13 pm
Mae'r llyfr yn ffenomenon (ydw i wedi sillafu hwnna'n gywir?) ddigon od. Wedi gwerthu slecs. Lot fawr o ganmol, yn enwedig ymysg y garfan h^yn. e.e Roedd Mam a Nain wedi gwirioni. Ond mae gen i ffrindiau (deallus iawn) sydd wedi rhoi ffling iddo fo ar ôl cwpwl o bennodau. Ac eraill lwyddodd i'w orffen a deud "Ia, oedd o'n iawn."
Mi ddarllenais i o, ei fwynhau, gwerthfawrogi'r stori (a'r stwff sy'n wir) a'r ffaith ar y diwedd na ddatgelaf, yr iaith, y lle ayyb, ond wnes i ddim gwirioni 'chwaith. Dwi'm yn siwr pam na wnes i wirioni, ond nath o'm siglo fy nghwch i.
Pawb at y peth y bo.