O! Tyn y Gorchudd

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Blewgast » Llun 27 Hyd 2003 9:17 pm

Newydd orffen O! Tyn y Gorchudd! :D Diolch am fy annog i barhau i'w ddarllen, odd e'n jobyn a hanner i'w ddarllen i ddechre!!
Ond af i ddim mor bell i ddweud mai dyma'r llyfr gorau i mi ei darllen erioed mewn urhyw iaith .
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan Meg » Llun 27 Hyd 2003 11:13 pm

Mae'r llyfr yn ffenomenon (ydw i wedi sillafu hwnna'n gywir?) ddigon od. Wedi gwerthu slecs. Lot fawr o ganmol, yn enwedig ymysg y garfan h^yn. e.e Roedd Mam a Nain wedi gwirioni. Ond mae gen i ffrindiau (deallus iawn) sydd wedi rhoi ffling iddo fo ar ôl cwpwl o bennodau. Ac eraill lwyddodd i'w orffen a deud "Ia, oedd o'n iawn."
Mi ddarllenais i o, ei fwynhau, gwerthfawrogi'r stori (a'r stwff sy'n wir) a'r ffaith ar y diwedd na ddatgelaf, yr iaith, y lle ayyb, ond wnes i ddim gwirioni 'chwaith. Dwi'm yn siwr pam na wnes i wirioni, ond nath o'm siglo fy nghwch i.

Pawb at y peth y bo.
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Postiogan Newt Gingrich » Llun 27 Hyd 2003 11:58 pm

Meg a ddywedodd:Pawb at y peth y bo.


Does dim posib dadlau efo hawl pawb i dast gwahanol. Ond da chi, gwnewch fel Meg a rhowch gyfle i'r nofel. Dwi'n eithaf sicr nad dyfaru wnaiff y rhelyw o ddarllenwyr Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Siffrwd Helyg » Maw 28 Hyd 2003 4:55 pm

Wedi darllen hwn heddiw, a meddwl ei fod yn hollol wych. Dwi'n dwli ar ffordd ANgharad o sgwennu - er iddo gymryd ychydig o amser i mi gael gafael ar y stori (on i bron a rhoi ffling iddo rol y bennod gynta, ond ar ol gweld yr edefyn yma, mi benderfynais gario ymlaen - felly diolch! :D )

Da iawn wir!
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Aran » Maw 28 Hyd 2003 6:08 pm

da iawn i chi gyd am gario ymlaen... :)

cytuno efo meg - ond eto, hyd y gwn i, does 'na'r un llyfr erioed wedi plesio pawb...

ond bechod am y rhai wnaeth rhoi'r ffling iddi ar ôl y pennodau cyntaf - gormod o ddisgwyl i bob dim digwydd yn syth, fel ffilm hollywood, ella? mae amynedd yn beth da weithie, am wn i, a dw i'n falch bod yna rhai awduron sydd ddim yn teimlo bod rhaid iddyn nhw mynd ar garlam i fewn i'r peth...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Dylan » Maw 28 Hyd 2003 7:30 pm

wedi'i orffen o. Wedi'i fwynhau o. Wedi'i 'sgrifennu yn dda iawn, bach yn drist ar y diwedd ond dyna ydi pwynt y peth felly pob clod am hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Blewgast » Mer 29 Hyd 2003 10:41 pm

Yn sicr, dyma'r peth gore i mi ddarllen o fewn yr wythnose diwethaf ma - mae ond yn dangos bo rhaid parhau i ddarllen heibio'r bennod gyntaf!!! Dwi wedi dysgu fy ngwers 9r!! :P
Da te!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sad 22 Tach 2003 5:23 pm

Sori i atgyfodi hyn, ond fe fenes i ddarllen y peth ddoe. Biwt, achan! Bron llefen mewn mannau :wps: , ac mae'r diwedd wir yn agroiad llygad.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Boris » Mer 26 Tach 2003 10:47 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Sori i atgyfodi hyn, ond fe fenes i ddarllen y peth ddoe. Biwt, achan! Bron llefen mewn mannau :wps: , ac mae'r diwedd wir yn agroiad llygad.


Dwi'n cytun efo Gwahanglwyf!!! 'And that's a first'
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Leusa » Maw 25 Mai 2004 9:44 am

Cytuno ei fod yn llyfr gwych iawn yn ei gyfanrwydd, ma'n anodd cael blas arno fo i ddechra, ond ar ol y bennod gynta ma'n anodd ei roi i lawr.
Ma'r cymeriada a'r sefyllfa yn wahanol iawn i unrhyw un 'dw i rioed di ddarllen amdano o blaen, a mae hynny'n braf.
Ma'r sioc ar y diwedd yn gwneud i chi rewi yn eich unfan am tua 3 munud cyfa.
Rhybudd - Peidiwch a darllen y dudalen olaf cyn gorffen y llyfr i gyd, a do mi nesh i - dam! :(
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron