Hei, dyn efo tast.
Dyma gampwaith cyntaf llenyddiaeth Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. Llyfr sylweddol er mai prin gant a hanner o dudalennau yw'r hyd. Mae yna gyfoeth iaith â chyfoeth profiad sy'n dangos aeddfedrwydd meddyliol amlwg (a tydi'r awdures ond newydd groesi'r deg ar hugain).
Dwi hefyd yn dyfalu fod Angharad (sy'n medru'r Almaeneg yn rhugl) wedi darllen Sebald, awdur o Almaenwr oedd yn darlithio ym Mhrifysgol East Anglia tan ei farwolaeth rhyw flwyddyn yn ôl. Efallai fy mod yn anghywir, ond dwi o'r farn fod yna ôl dylanwad y meistr hwn ar y modd y cynluniwyd y nofel gan Angharad.
Os da chi heb ddarllen y nofel gwnewch hynny nawr. Dyma'r ddadl gryfaf ers dipyn i mi ei weld dros sicrhau parhad y Gymraeg - wedi'r cyfan, fyddai O! Ty'n y Gorchudd dim yn gweithio mewn iaith arall.