Tudalen 1 o 4

O! Tyn y Gorchudd

PostioPostiwyd: Maw 21 Hyd 2003 12:28 am
gan kamikaze_cymru
gobeithio 'mod i heb fethu lle drafodwyd hwn o'r blaen (creu edefyn diwerth fel petai)

ond be ma pawb yn feddwl o O! Tyn y Gorchudd??? (Angharad Price, ennill fedal ryddiaeth 2002)

newydd ei gorffen, wedi ei fwynhau yn fawr iawn, er mod i ddim yn rhy siwr ar y dechrau, mi aeth yn wych ar ol i'r stori ddechrau.

O! Ty'n y gorchudd

PostioPostiwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:07 pm
gan Boris
Hei, dyn efo tast.

Dyma gampwaith cyntaf llenyddiaeth Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. Llyfr sylweddol er mai prin gant a hanner o dudalennau yw'r hyd. Mae yna gyfoeth iaith â chyfoeth profiad sy'n dangos aeddfedrwydd meddyliol amlwg (a tydi'r awdures ond newydd groesi'r deg ar hugain).

Dwi hefyd yn dyfalu fod Angharad (sy'n medru'r Almaeneg yn rhugl) wedi darllen Sebald, awdur o Almaenwr oedd yn darlithio ym Mhrifysgol East Anglia tan ei farwolaeth rhyw flwyddyn yn ôl. Efallai fy mod yn anghywir, ond dwi o'r farn fod yna ôl dylanwad y meistr hwn ar y modd y cynluniwyd y nofel gan Angharad.

Os da chi heb ddarllen y nofel gwnewch hynny nawr. Dyma'r ddadl gryfaf ers dipyn i mi ei weld dros sicrhau parhad y Gymraeg - wedi'r cyfan, fyddai O! Ty'n y Gorchudd dim yn gweithio mewn iaith arall. :D :ofn:

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2003 1:22 am
gan Pino
Hmmm, diddorol. Dwi ar fy ngwyliau ar hyn o bryd a mae'r llyfr yn eistedd heb ei agor yn fy rycsach. Nai adael i chi wbod fy marn ar ôl ei ddarllen.

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2003 5:16 pm
gan Dylan
'dw i am ei ddechrau heno 'ma, fel mae'n digwydd. Mi riportiai yn ol efo'r feirniadaeth.

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2003 6:35 pm
gan Blewgast
Wel, dwi 'di dechre darllen nofel Angharad Price, ac wedi cyrraedd diwedd pennod 1 - ond dwi methu mynd ymhellach. :? Dyw e ddim wedi cipio 'y nychymyg i eto, er mai'n rhaid dweud bod yr iaith yn gyfoethog dros ben.
A fydde fe'n werth i mi barhau i ddarllen y nofel? :?:

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2003 9:39 pm
gan Aran
byddai, llinos, byddai - parhau sy'n piau hi, amdani. mae pob lyfr o dan haul (O'r Canol i Lawr, hyd yn oed) yn haeddu mwy na chipolwg dros y pennod cyntaf!

ac mae O! Tyn y Gorchudd yn un o'r pethe gorau i mi ddarllen mewn unrhyw iaith. clir a phwerus, a nid yw dechrau'n araf yn nam anfaddeuol! dal ati, mae 'na drysorau yn y tudalennau 'na... :)

PostioPostiwyd: Gwe 24 Hyd 2003 11:19 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hmmm, dadl gymelliadol gan bawb, fe ymddengys. Wedi codi'r peth oddi ar y silff yn Blackwells ac yn Waterstones dros yr wythnose dwetha, ond heb ildio i'r ysfa 'to. Ond os yw pawb mor argyhoeddedig...

PostioPostiwyd: Gwe 24 Hyd 2003 4:10 pm
gan Dylan
Newydd ddarllen y ddau bennod cyntaf y prynhawn 'ma. Mwynhau cyn belled. Mi fyddai'n ei orffen yn nes ymlaen.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Hyd 2003 11:44 pm
gan Pino
Newydd orffen ei ddarllen - ia, nofel arbennig a hyfryd, hefo'r iaith gyfoethog yn llifo ac yn swnio'n farddonol ambell waith. (O'n i'n difaru weithiau nad oedd gen i eiriadur wrth f'ochr.)

Nofel drist hefyd ynglyn â ffordd o fyw sydd i bob pwrpas wedi marw allan. I'r Gymraeg fyw, bydd rhai iddo addasu i ofynion pwysau yr unfedganrif ar hugain, er enghraifft trwy ddatblygiadau megis maes-e!

Heb ddatgelu'r stori i'r rhai sydd heb ei darllen, dwi'n cymryd fod hanes y cymeriadau i gyd (ond am un) yn wir, h.y. bod nifer o'r rhai yr adroddir amdanynt (yn enwedig tua ddiwedd y nofel) dal hefo ni?

Boris - doeddwn i ddim yn deall dy sylw di am Sebald, yr awdur Almaenaidd - wyt ti eisiau ymhelaethu?...

O! Ty'n y gorchudd

PostioPostiwyd: Sad 25 Hyd 2003 7:59 am
gan Newt Gingrich
Da clywed dy fod wedi mwynhau y llyfr.

Sebald yw W.G. Sebald - awdur pedair 'nofel'(anodd deud os yw nofel yn disgrifiad teg) sef 'Vertigo', 'The Emigrants', 'Rings of Saturn' ac 'Austerlitz'. Mae o hefyd wedi cyhoeddi ambell i lyfr ffeithiol.

Fel un oedd yn ysgrifennu'n wreiddiol yn yr Almaeneg dwi jyst yn credu fod yna bosibilrwydd fod ei arddull wedi dylanwadu ar Angharad - meddwl falle y byddai hi wedi darllen ei waith yn y iaith wreiddiol.

Ar y llaw arall, falle mod i'n hollol anghywir. Dylid pwysleisio mae dylanwad ydi'r gair dwi'n ddefnyddio - os yn wir neu ddim tydi hyn ddim yn tynnu dim oddi wrth Angharad am greu darn o lenyddiaeth unigryw a gwych iawn. Wedi'r cyfan, peth da fydde cael dy ddylanwadu gan un fel Sebald.