Tudalen 4 o 4

Re: O! Tyn y Gorchudd

PostioPostiwyd: Sad 04 Rhag 2010 2:53 pm
gan Bethan88
Helo 'na!
Newydd ddod ar draws y negeseuon yma! Dwi wrthi'n gwneud cwrs M.Phil ym Mhrifysgol Aberystwyth a fy nhestun yw pam a sut y mae O! tyn y gorchudd wedi dod yn ffenomenon ac yn glasur, gan ei gymharu gyda ennillwyr eraill y fedal ryddiaith o 1991 ymlaen. Rwyf wrthi'n dosbarthu holiadur ac rwy'n chwilio am bob math o sylwadau a chyfraniadau. A oes gen unrhyw un ohonoch ddiddordeb mewn llenwi holiadur i mewn i mi? Ni chaiff eich manylion eu datgelu yn y traethawd ond byddai eich barn yn werthfawr iawn.

Os oes gennych ddiddordeb, gyrrwch e-bost i mi ac fe wna i yrru holiadur atoch cyn gynted ag sy'n bosibl. bmw7 [at] aber.ac.uk

Diolch yn fawr

Bethan

Re: O! Tyn y Gorchudd

PostioPostiwyd: Mer 08 Rhag 2010 9:32 am
gan ceribethlem
Bethan88 a ddywedodd:Os oes gennych ddiddordeb, gyrrwch e-bost i mi ac fe wna i yrru holiadur atoch cyn gynted ag sy'n bosibl. bmw7 [at] aber.ac.uk

Shwdmae Bethan, ers lawer dydd. Bydden i'n awgrymu golygu dy e-bost i rhywbeth fel bmw7 [at] aber.ac.uk rhag ofn i sbam-botwyr cael gafael arni.
Gobeithio fod yr MPhil yn mynd yn dda.

Re: O! Tyn y Gorchudd

PostioPostiwyd: Sul 02 Ion 2011 7:33 pm
gan MELOG
yr un peth efo caersaint, dydych chi ddim efo mynadd efo fo am y traean cynta wedyn man cal crap go iawn arna chi... oni wrth fy modd efo fo odd o reit 'hudol' mor cawslyd a caws carer a swniai hynnu. ma mam deud dwi yn perthyn iddi a'r teuly oedd hi'n son am (o bell) felly odd o'n neis, naws hynafol cymru hen ffash ar ei ora cyn i cyfalafiaeth golobaleiddedig dod a gwneud pentrefi cymru dim gwahanol i rai yn idaho neu zeland newydd... bw hw! haha