Tudalen 1 o 1

Dic Jones - Yn ei eiriau ei hun

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2010 7:51 pm
gan Cymru Fydd
Beth ydi'r farn am y rhaglen am Dic Jones a ddarlledwyd nos Lun, Mawrth y cynta?
Dwi'n meddwl ei bod hi'n rhaglen wych iawn - diolch byth amdani oherwydd mae'n gofnod gwerthfawr iawn o un o'n beirdd a'n ffigyrau amlycaf. Mae S4C wedi gwneud job dda o goffau Hywel Teifi a Dic yn ddiweddar.
Roedd yn rhaglen dyner dros ben, yn llawn direidi ac angerdd, ond hefyd yn llawn tristwch, yn enwedig y darn am Esyllt. Ac wrth gwrs, sgandal 1976 i roi chydig o gic i'r rhaglen!
Asgob den ni wedi colli trysorau yn ddiweddar. Dic, Hywel Teifi a T. Llew. Fel ddudodd Iolo Williams (y peth calla ddwedodd o erioed) - Fedrwn ni ddim fforddio colli'r rhain.