Caersaint

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caersaint

Postiogan fREUd » Sad 27 Maw 2010 9:28 am

Wel, dwn i'm lle i ddechra. Ma gen i ddiddordeb mawr mewn gwbod be ydi barn pobl am hon. Dwi tua hanner ffordd drwyddi a'r gwir ydi dwi wedi niflasu yn llwyr arni! Dim erstalwm dwi wedi clywad y ffasiwn hype a chal fy siomi. Mae'r nofel yma yn methu ar lot o lefela yn fy marn i (a dydw i ddim yn arbennigwr o bell ffordd). Mae'r cymeriadau yn ystrydebol ac yn afreal, does dim posib uniaethu efo nhw a does dim modd cynhesu atyn nhw o gwbwl ac ar ben hynny be am yr enwa?!! Fysa rhai o'r cymeriadau yma ddim ar goll ar yr un tudalennau a Sali Mali a Jac y Jwc.... Med Medra, Haydn Palladium ac eglwys Sant John JOnes!! Pliiiiis!

Er fod Angharad Price wedi llwyddo i ddal tafodiaith a rhai o ddywediadau y cofi, mae'n methu lan a dal yr hiwmor, ac mae ei hymdrechion mor ddosbarth canol a 'phell' o'r cofis 'go iawn' mae o'n gneud i mi grinjo! Yn yr un modd, ei 'chyfieithiad' o "cont" i "sant anghynas"... o gogoniant!!! :ofn:

Wrth ddarllan nofel mor ddi-ddim a hon dwi'n teimlo braidd ein bod ni fel darllenwyr llyfra Cymraeg yn cael ein sarhau rhywsut gan ddiffyg..dwn i'm... grit, dychymyg, gallu i fynd dan groen, plot cymleth, beiddgar... dwn im... yr RHYWBETH mawr ma sydd ar goll yn Caersaint a'i thebyg ac alla i ddim a helpu cymharu yr hyn dwi'n ddarllen efo nofelau yn yr iaith Saesneg. Dudwch be fynnwch chi am hyn, ond ma'n beth naturiol i rhywun sy'n darllen dipyn go lew yn yr ddwy iaith ei wneud dwi'n meddwl,a yn rhywbeth y dylai awduron Cymraeg ddisgwyl ei weld yn digwydd. Wrth gwrs mae na lwythi o nofela di-ddim cachu yn yr iaith Saesneg, ond dydi rheiny ddim yn cael yr heip gafodd hon!!

Dwi wedi rhoi fflich i Caersaint dros y sdafall ddwy-waith dair gan fod y mren i yn llosgi wrth i darllan hi, a'i bod hi'n gneud mi deimlo mor ddirmygus rhywsut fod yr awdur wedi methu a mynd dan groen y cofi, go iawn. Fel rhywun sydd wedi fy magu yn ardal Caernarfon ac wedi, byw, gweithio a chymdeithasu efo'r bobl yma (ac nid pobl dosbarth canol y dre dwi'n siarad amdanyn nhw) mi ro'n i'n edrach ymlaen i'w darllen gan fod na fath 'drysor' (dwi'n ddramatig dwch?!) i sgwennu amdano yn y dre. Alla i ddim helpu a meddwl y bysa hi yn nofel dra gwahanol tasa hi wedi ei sgwennu gan rhywun fel Dewi Prysor neu Twm Miall....
The first human who hurled an insult instead of a stone was the founder of civilization - sigmund fREUd
Rhithffurf defnyddiwr
fREUd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Llun 26 Ebr 2004 1:58 pm
Lleoliad: Wrth y soffa!

Re: Caersaint

Postiogan paul.r » Iau 01 Ebr 2010 8:10 am

Ti ddim di dalld y nofel o gwbwl, boi.
paul.r
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 31 Maw 2010 6:48 pm

Re: Caersaint

Postiogan fREUd » Iau 01 Ebr 2010 11:47 am

deud ti boi, tisho egluro i mi be dwi ddim yn ddalld? Dwi'n dal ati efo hi a dal ddim yn gwled yr apel
The first human who hurled an insult instead of a stone was the founder of civilization - sigmund fREUd
Rhithffurf defnyddiwr
fREUd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Llun 26 Ebr 2004 1:58 pm
Lleoliad: Wrth y soffa!


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron