Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010

Postiogan Brawd » Mer 28 Ebr 2010 10:16 am

Braidd dim trafodaeth wedi bod ar hwn ar y maes hyd yma. Dyma'r rhestr:

Cymru gan John Davies (Lolfa)
Banerog gan Hywel Griffiths (Lolfa)
Naw mis gan Caryl Lewis (Lolfa)
Llwybrau gan Haf Llewelyn (Barddas)
Cornel aur gan Manon Rhys (Gomer)
Lewis Edwards gan Dafydd Densil Morgan (Prifysgol Cymru)
Mân esgyrn gan Siân Owen (Gomer)
Cymer y seren gan Cefin Roberts (Gwynedd)
Fel Aderyn gan Manon Steffan Ros (Lolfa)
Y Trydydd Peth gan Siân Melangell Dafydd (Gomer)

Sawl un yn ddewis da, ond rydw i'n credu bod na nofelau amlwg ar goll fan hyn a nofelau llawer gwannach wedi cymryd eu lle - tybed pam? Themau digon treuliedig sydd yn nifer o'r nofelau - ond efallai bod nofelau mwy beiddgar yn cael eu hepgor am yr union rheswm hwnnw - y sefydliad isie rhoi stop ar yr awduron mwy tanllyd a gwreiddiol.

Trafodwch!
Brawd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2008 6:24 pm

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010

Postiogan sian » Mer 28 Ebr 2010 10:53 am

Wnes i flogio'n fyr amdano.
Fuodd 'na drafodaeth fer ond ddigon difyr rhyngdda i (siantirdu) a collgwynfa ar twitter yn dilyn hynny.
Trafodaethau difyr gyda sawl barn wahanol ar raglen Dewi Llwyd bore Sul (Catrin Beard) a rhaglen Dei Tomos prynhawn Sul (Vaughan Hughes, Annes Glyn a Karen Owen)

Dwi ddim yn siwr am dy gonspirasi theori di - ond mae'r beirniaid eleni'n ymddangos yn rhai gweddol sidêt :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010

Postiogan Brawd » Mer 28 Ebr 2010 11:07 am

Mae dy rhestr di yn ymddangos yn nes ati, Sian, diolch am rhannu hwn gyda fi. Rhestr mwy deallus o dipyn :D

Cofio rhywun o'r Academi yn son ar deledu llynedd mai dewis beirniaid "fydd yn dod i gytundeb a'i gilydd" maen nhw - ffordd ddiddorol o ddewis beirniaid...

Mae patrwm bob blwyddyn...mae unrhyw un sy'n sgwennu llyfr dros gan mil o eiriau 'by default' ar y rhestr, ac mae unrhyw un sydd yn byw o fewn dalgylch y beirniaid/gweithio gyda nhw/yn perthyn iddyn nhw hefyd ar y rhestr...eleni mae un o'r beirniaid yn frawd yng ngyfraith i un o'r awduron!

Ond falle taw drwgdybus ydw i a bod nhw'n hollol niwtral... :rolio:
Brawd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2008 6:24 pm

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010

Postiogan sian » Mer 28 Ebr 2010 11:44 am

Hm! Anffodus! Dw i ddim wedi darllen Cornel Aur eto ond mi fyswn yn tybio bod y gyfrol yn llwyr haeddu ei lle ar y rhestr.

Tybed a fyddai'n bosibl yn y Gymru fach 'ma i ddewis tri beirniad cymwys sydd heb gysylltiad trwy deulu, gwaith, cyfeillgarwch/gelyniaeth neu gymdogaeth â'r un o awduron y llyfrau cymwys?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010

Postiogan Brawd » Mer 28 Ebr 2010 12:16 pm

Cytuno - dwi wedi darllen Cornel Aur ac mae hi'n gyfrol hyfryd, sy'n llawer gwell na lot ar y rhestr...ond o ran egwyddor, ma'r peth, fel rwyt yn dweud, yn 'anffodus.' Ma'n siwr bo ti'n iawn a bod dim modd ffeindio unrhyw feirniad niwtral o gwbl yn y Gymru fach sydd ohoni...dyma pam fod gennym ni'r Steddfod ynte? Y llyfre gorau sy'n ennill am eu bod dan ffugenw, nid yr awdur mwyaf toreithiog/cydnabyddedig/hen/uchel ei barch/parch!
Brawd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2008 6:24 pm

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010

Postiogan sian » Mer 28 Ebr 2010 12:55 pm

Erbyn meddwl, mae yn rhyfedd iawn bod John Gwilym Jones wedi cael bod / cytuno i fod ar y panel beirniaid.
Byddai'n anodd iawn iddyn nhw wobrwyo Manon Rhys hyd yn oed pe bai ei chyfrol hi ben ac ysgwydd uwchlaw'r lleill.

Brawd a ddywedodd:...dyma pam fod gennym ni'r Steddfod ynte? Y llyfre gorau sy'n ennill am eu bod dan ffugenw, nid yr awdur mwyaf toreithiog/cydnabyddedig/hen/uchel ei barch/parch!


Ond un peth sydd braidd yn rhyfedd am y rhestr hon yw bod rhai awduron "toreithiog/cydnabyddedig/hen/uchel ei barch/parch" heb eu cynnwys er eu bod wedi cyhoeddi gweithiau safonol iawn - dwi'n meddwl yn arbennig am Dafydd Wyn Jones, Eigra, Elwyn Edwards, Meredydd Evans, Tony Bianchi, Simon Brooks ac Alan Llwyd - ac mae 'na fwy.

Felly, yn ogystal â hepgor "nofelau mwy beiddgar" ys dwedest ti, maen nhw wedi hepgor cyfrolau "solet" hefyd - a thueddu i fynd am y tir canol mwy neis-neis? :?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010

Postiogan sian » Sul 02 Mai 2010 4:04 pm

Dafydd Morgan Lewis yn dweud bod Y Llyfrgell, Fflur Dafydd yn “un o'r nofelau gorau i ennill Gwobr Goffa Daniel Owen erioed".
John Rowlands yn Barn mis Mai (http://stwnsh.com/barn) yn dweud bod y ffaith nad yw ar y rhestr hir yn "awgrymu rhyw fath o ragfarn y tro yma" ond Vaughan Hughes ar raglen Dei Tomos yr wythnos ddiwetha yn dweud rhywbeth fel ei bod "bron yn annarllenadwy". Od?
Roedd John Rowlands o'r farn hefyd y dylai nofelau fel y Dŵr, Lloyd Jones, Dala’r Llanw, Jon Gower a Milwr Bychan Nesta, Aled Islwyn fod ar y rhestr hir.
Yna, mae'n gofyn, "Onid profi y mae hyn mai mater o chwaeth yw’r cyfan?" ac yn ateb ei gwestiwn ei hunan, "Nage ddim – mater o ddiffyg chwaeth yn aml iawn." Dyna ni, te!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron