Tudalen 1 o 1

straeon aeafol gymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 12 Tach 2010 12:14 am
gan angharad glas
Helo gyfeillion! Tybed, a all unrhywun gynnig stori o Gymru sydd yn ymwneud ag unai'r Nadolig neu'r gaeaf?
Rwyf yn athrawes sydd yn rhan o brosiect gyda ysgolion o dramor, a'r weithgaredd gynta yw rhannu straeon lleol am y gaeaf... a dw i'n styc yn barod!

All unrhywun helpu?

Diolch! x

Re: straeon aeafol gymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 12 Tach 2010 12:35 am
gan osian
Os mai i blant mae angen straeon, yna mae 'na gyfrol o straeon Nadoligaidd / gaeafol o'r enw Hosan Nadolig gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 1994. Fedra i ddim dod o hyd iddi ar safle gwe Gomer nac yn unman arall ar y we, ond dwi'n shwr bod modd cael gafael yn rhywle.

Mae 'na stori am fy mrawd yn cael ei eni ynddi, ond iddi gael ei sgwennu cyn i hynny ddigwydd, felly Carol ydi ei enw yn y stori.

Re: straeon aeafol gymraeg?

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 12:00 pm
gan obi wan
Y clasur STORIAU'R NENLLYS FAWR, W.J. Griffith. "A Winter's Tale" os bu un erioed. Blas gaeafol braf ar sawl un o'r straeon.

Re: straeon aeafol gymraeg?

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 6:29 pm
gan Meg
Mae na lyfr ar gael - nofel i'r arddegau ( ac oedolion hefyd) - "Eira Mân, Eira Mawr," Gareth F Williams.
Stori wych - creepy, codi ofn!

Re: straeon aeafol gymraeg?

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2010 3:18 pm
gan obi wan
Nofel anfarwol Y DRYSLWYN, Elizabeth Watkin Jones. Naws gaeafol braf i'r penodau cyntaf. Clasur yn wir.

Re: straeon aeafol gymraeg?

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2010 1:35 pm
gan khmer hun
Teulu Bach Nantoer?
http://scr.bi/bnnRkm