Tudalen 1 o 1

Imperialaidd a Llen Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 30 Rhag 2010 10:45 am
gan Gwddig
Dw i´n chwilio am fath arbennig ar nofel neu gofnodion hanesyddol Cymraeg. Fe geir sawl nofel hanesyddol fel petai fictorianaidd ond mae´n nhw´n rhy blwyfol eu golwg i fi yn canolbwyntio ar Gymru ei hun. Onid fu Gymru yn yr oes hon yn rhan yr ymerawdraeth fwyaf a welodd y byd erioed * A beth sy´n ddiddorol ydy: Ar yr un llaw buodd y mudiad gwrthimperialaidd yn gryf yng Nghymru yn yr 19 canrif neu gwell dweud tyfodd yn gryf. Ond ar y llaw arall byddai rhan gan lawer o Gymro yn y gyfundrefn imperialaidd a fyddai´n manteisio ar bosibilrwydd gyrfa yn y gwladfeydd. Yn Sugar and Slate mae Charlotte Williams yn disgrifio cysylltiadau diwydiant llechi Cymru a diwydiant siwgwr y Caribbean. A mae´n hefyd son am genhadau o Gymru yn Affrica a fyddai´n gwarchod y bobl groenddu yn erbyn gwynion eraill, y byddai enw gwell ganddynt ymhlith y brodorion na gan y Saeson, rhywfath ar imperialaidd feddal. A mae hefyd yn son am fath o hiliogaeth gudd yng Nghymru. Ond oes ei debyg ar gael mewn Cymraeg '* Mae yna´r nofel gampus Paradwys yn trin y pwnc yma ond dim ond ar yr ymylau a dydy Polmont ddim fyth yn cyrraedd y Caribbean, dim ond drwy blydi bamffledi fe ddysgodd am gamdrin y caethweision yno. Byddwn ni hefyd yn walch am adgofion er enghraifft morwr sy´n adrodd straeon am Ghana, India a Jamaica a nid am Feirionydd yn unig. Byddwn yn fodlon am awgrym :syniad: , diolch.