Dyma'r gorau o'r gweddillion.
Wel, i fod yn fanwl gywir, dyma'r gweddillion i gyd
(Unrhywun sy'n meddwl am greu cyfrifau newydd er mwyn codi ei bleidlais, cywilydd arnoch chi! Mae digon o le ar y goelcerth yna.)
Mae'r limerigau yn y drefn cyrhaeddon nhw.
Ceffyl a ddywedodd:Dywedodd fy mos "O'r gore!!"
wrth imi bori ar faes-e un bore,
"Cei fynd ar maes-e,"
"Ond cawn rhywyn yn dy le!"
A nawr dwi'n ddiwaith a heb ddime.
mi fydda i'n fy ôl a ddywedodd:Wrth bori drwy Faes E un bore
Trodd munud neu ddau mewn i orie
Wedyn dyddiau maith
A misoedd! Dwi'n gaeth!
Methu adael er trio fy ngore
Michael e-Jones a ddywedodd:Un diwrnod wrth bori Maes-E
Daeth syniad o nunlle i 'mhrên:
Cawn syrffio i fwrdd
Ar y We, nid y môr,
A chreu Wladfa arlein - byddwn sêr!
Ap Ffrwchnedd a ddywedodd:Wrth bori ar faes-e un bore
Fel arfer, yn rhoddi o 'ngore
Fe gofiais yn syn
Fod rhaid i fi fyn'
Er ei bod hi yn erbyn y ffactore
lladd dafad ddall a ddywedodd:Wrth edrych drwy faes-e un bore,
Daeth syniad i'm meddwl o rywle,
I ddanfon, fel tric,
Hen feirws i Nic,
Ac felly dim pori am ddyddie...
boi trist a ddywedodd:Wrth edrych drwy faes-e un bore,
Fe sylwais fod pedwar cant o aelode,
Wel am fywyd trist,
Sydd ganddynt. O Grist!
Gwnewch rywbeth fwy buddiol a'ch bwyde!!
rhech wlyb a ddywedodd:Tra'n edrych drwy faes-e un bora,
Fe gwrddais a chariad o rwla,
Does gen i ddim cliw,
Os yw'n ddyn neu'n hen fenyw,
Mae'n galw ei hun yn DebWmffra?!
yr hogyn pren a ddywedodd:Wrth bori drwy faes-e un bore
Lle mae sgwrsio Cymraeg ar'i ore
Fe ofynnes am dips
Am sut i neud chips
Fe losgodd y ty^ lawr yn fflame!
sgwarnog a ddywedodd:Wnes i sylwi ar Faes-E un bore
Bod Nic isio'r limerigs gorau
I lenwi'r Rhithfro
Efo geiriau'n llithro
Mewn atsain o Feifod - 'gorwch dore!
Arwyn yr erfinen a ddywedodd:Wrth bori ym maes-e un bora'
Cefais hergwd gan afr angora.
Hedfanais yn glir
Fel saeth dros y tir-
Rwyf bellach yn byw yn Andorra!