shadowlands

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

shadowlands

Postiogan Sian Northey » Llun 27 Hyd 2003 5:06 pm

Wedi bod yn gwylio y ffilm Shadowlands. Os dwi wedi dallt yn iawn teitl stori (erthygl? nofel?)gan C S Lewis ydi Shadowlands. Oes 'na rhywun yn gwybod lle dwi'n cael gafael arni? Os dwi'n gwneud search mond y ffilm dwi'n gael. Diolch.
Sian Northey
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Iau 23 Ion 2003 4:45 pm

Re: shadowlands

Postiogan Owain Llwyd » Maw 28 Hyd 2003 8:17 pm

Sian Northey a ddywedodd:Wedi bod yn gwylio y ffilm Shadowlands. Os dwi wedi dallt yn iawn teitl stori (erthygl? nofel?)gan C S Lewis ydi Shadowlands. Oes 'na rhywun yn gwybod lle dwi'n cael gafael arni? Os dwi'n gwneud search mond y ffilm dwi'n gael. Diolch.


Mae teitl y ddrama/ffilm wedi'i godi o bennod olaf The Last Battle.

“There was a real railway accident,” said Aslan softly. “Your father and mother and all of you are – as you used to call it in the Shadow-Lands – dead. The term is over: the holidays have begun. The dream is ended: this is the morning.”
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Sian Northey » Mer 29 Hyd 2003 9:40 am

Diolch. Yr unig beth dwi wedi ddarllen ganddo ydi'r Screwtape Letters.
Sian Northey
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Iau 23 Ion 2003 4:45 pm

Postiogan Owain Llwyd » Mer 29 Hyd 2003 10:29 am

Be oeddet ti'n ei feddwl am The Screwtape Letters, felly? (Mae ysgrif arall gynno fo, 'Screwtape Proposes a Toast', sy'n dilyn patrwm lled-debyg.)

Mi o'n i'n cael bod y ffilm ei hun 'pyn bach yn ormod o gyfraniad i gwlt C.S.Lewis, y boi sanctaidd. Os oes gen ti ddiddordeb, mae bywgraffiad ohono fo gan A.N.Wilson sy'n llwyddo i fod yn ddi-lol ac yn ddynol iawn ar yr un pryd (am wn i) - darllen difyr ofnadwy.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Sian Northey » Mer 29 Hyd 2003 2:35 pm

Eu mwynhau yn ofnadwy - ond mae 'na flynyddoedd ers hynny - roeddwn yn fy arddegau. Felly doeddwn i ddim yn meddwl llawer am athroniaeth a chrefydd - ei gofio fo'n ddoniol dwi. (Nid mod i'n un sy'n meddwl llawer am a. a ch. rwan chwaith) Ar ôl i ti fy atgoffa dwi'n meddwl mod i wedi dechrau Screwtape proposes a toast rhywbryd ond heb ei orffen.
Mi ychwanegaf lyfr A. N. Wilson i'r rhestr hir (yr un sgin pawb!)
Roeddwn wedi cael yr argraff o'r ffilm fod yna fwy i'r term Shadowlands na thir y meirw - rhywbeth tebyg i fywydau yng nghysgod bywydau eraill heb fodoli go iawn nes cael eu cyffwrdd (gan boen?)??
Sian Northey
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Iau 23 Ion 2003 4:45 pm


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai