(Gydag ymddiheuriadau am bostio'r neges ddwywaith)
Heno bydd Cymdeithas Ffilimor yn cynnal y cyfarfod cyntaf, a bydd yr awdur Meleri Wyn James yn trafod ei gwaith.
Sefydlwyd y gymdeithas er mwyn llenwi'r gwagle wedi i Gymdeithas Taliesin yn y coleg ddod i ben yn ddisymwth iawn y llynedd (gw. Lol am ragor o wybodaeth am ddiflaniad Taliesin!)
Mae'r trafodaethau misol yn rhan o ddigwyddiadau Gwyl y Ddwy Afon gydol y flwyddyn. Dewch yn llu!
Tafarn y Cwps Aberystwyth 8:00 y.h 29/10/03