Marchnata Llyfrau Cymraeg

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Marchnata Llyfrau Cymraeg

Postiogan Meg » Sad 11 Ion 2003 1:27 pm

Dwi'n aelod o bwyllgor sy'n trafod sut i farchnata llyfrau Cymraeg yn fwy effeithiol, ac ar wahan i'r ateb amlwg: mwy o bres, oes gan unrhyw un ohonoch chi lyfrbryfed syniadau difyr, gwreiddiol ynglyn â sut y gellid gwella pethau?
Be sy'n gwneud i chi ddewis llyfr penodol?
Be sy'n eich rhwystro rhag darllen/prynu llyfr Cymraeg?
Ble/sut fyddwch chi'n prynu llyfrau Cymraeg?
A chwestiynau tebyg.
Gwerthfawrogir pob ymateb!
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Re: Marchnata Llyfrau Cymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 11 Ion 2003 1:42 pm

1. Be sy'n gwneud i chi ddewis llyfr penodol?
2. Be sy'n eich rhwystro rhag darllen/prynu llyfr Cymraeg?
3. Ble/sut fyddwch chi'n prynu llyfrau Cymraeg?


1. Y pwnc, rhan amlaf.

2. Er my mod i'n darllen llyfrau Cymraeg yn reit aml, mae 'na ddelwedd o iaith annealladwy mewn llyfrau Cymraeg, er nad yw hynny'n wir, ond mae'r ddelwedd yn troi pobl i ffwrdd. Does dim digon o hysbysu, ychwaith, o bellffordd, ac mae'n wir ddweud i bob diamwnt o lyfr, yn y Gymraeg, mae yno ddwy lwmp o gachu.

3. Siop Gymraeg, ond yn darllen llawer drwy'r ysgol. Dwi'n meddwl dylai ysgolion hysbysu llyfrau Cymraeg ffres i'r disgyblion llawer mwy.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Alys » Sad 11 Ion 2003 2:51 pm

Meg,
Gobeithio bod yr atebion hyn o gymorth:
Be sy'n gwneud i chi ddewis llyfr penodol?
Y testun, yr arddull, argymhelliad (personol, adolygiad, hysbyseb)
Be sy'n eich rhwystro rhag darllen/prynu llyfr Cymraeg?
Dim llawer
Ble/sut fyddwch chi'n prynu llyfrau Cymraeg?
Siop Gymraeg neu ar y we - ond mae'n well gen i gefnogi siopau lleol - a dyna'r pwynt pwysica sy gen i. Nid pawb yng Nghymru sy'n byw lle maen nhw'n pasio siop Gymraeg bob dydd, neu sy'n mynd i mewn i siop Gymraeg yn aml. Dydw i'n hunan ddim yn byw'n agos i siop lyfrau Cymraeg (medra i'n hawdd ffonio'r siop a chael postio'r stwff ond tydi hynny ddim yn ffordd o ddenu darllenwyr newydd). Tydi trefn y wefan Gwales ddim yn hawdd iawn ei defnyddio - byddai'n well medru prynu'n uniongyrchol arlein (mi wn i na fyddai hynny'n cefnogi siop leol ond o leia nid Amazon ayb. chwaith). Ond eto, nid pawb sydd â mynediad i'r we, neu fyddai'n mynd i wefan Gwales. Felly i ddenu pobl newydd a chael pobl i brynu 'ar y spot', beth am drefnu i siopau lleol (nid jyst siopau llyfrau/"pethe") stocio'r llyfrau mwya poblogaidd/diweddar am gyfnod ar ryw sail sale or return? Mae siopau pentref ayb yn stocio nifer o lyfrau diddordeb lleol yn barod. Byddai'n lles i siopau lleol ehangu'r math o stoc maen nhw'n werthu a hefyd yn gwneud lles i'r cyhoeddwyr trwy roi mwy o gyhoeddusrwydd am lyfrau - a gwerthu rhagor hefyd.

Gobeithio bod hynny'n rhywbeth ichi feddwl amdano.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Re: Marchnata Llyfrau Cymraeg

Postiogan nicdafis » Sad 11 Ion 2003 2:51 pm

1. Be sy'n gwneud i chi ddewis llyfr penodol?
2. Be sy'n eich rhwystro rhag darllen/prynu llyfr Cymraeg?
3. Ble/sut fyddwch chi'n prynu llyfrau Cymraeg?


1. Y pwnc, adolygiad da yn y wasg, rhestr darllen cwrs coleg, enw'r awdur.

2. Ddim ar gael yn hawdd dros y we. Dim digon o gyhoeddwyr Cymraeg yn defnyddio Amazon (am resymau da, siwr o fod).

3. Siopau llyfrau Cymraeg. Awen Teifi gan amlaf, Siop y Pethe weithiau.

Dydy gwales.com ddim yn wneud unrhywbeth defnyddiol, am wn i, i helpu darllenwyr cael gafael ar y llyfrau maen nhw eisiau yn glouach. Mae'n anodd i'w ddefnyddio, hefyd. Dw i'n gwybod bod rhesymau pam dydy'r Cyngor Llyfrau'n gallu gwerthu llyfrau yn uniongyrchol i'r cyhoedd: falle bod hi'n amser i edrych eto at rôl y CLlC yn hynny o beth?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sad 11 Ion 2003 2:55 pm

Jinx!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sad 11 Ion 2003 3:00 pm

Cytunaf am gefnogi siopau llyfrau lleol, a dw i yn wneud pwynt o ddefnyddio Awen Teifi pryd bynnag y galla i, ond mae eu stoc nhw yn fach ac er eu bod yn barod iawn i geisio ordro llyfrau gall hyn yn cymryd wythnosau. Os ydw i am brynu llyfr Saesneg, ar y llaw arall, yn aml iawn dw i'n gallu ei brynu trwy Amazon a bydd yn cymryd tri dydd i gyrraedd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Alys » Iau 16 Ion 2003 9:18 am

Jinx!


Great minds think alike. Gobeithio mae'n golygu bod hynny'n bwynt digon teg!
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan ceribethlem » Iau 16 Ion 2003 4:29 pm

Be sy'n gwneud i chi ddewis llyfr penodol?
Diddordeb yn y pwnc hwnnw, adolygiad da yn y wasg yn bennaf.

Be sy'n eich rhwystro rhag darllen/prynu llyfr Cymraeg?
Dim llawer. Mae'r dewis o lyfrau mewn siopau Cymraeg (megis Ty Tawe yn Abertawe, Siop y Pethe yn Rhydaman ayb) yn tueddu i fod yn fach ac felly heb y lle i gadw stoc mawr o lyfrau.
Y prrif bwynt pan nad ydw i'n darllen mwy o lyfrau Cymraeg yw'r diffyg dewis o ran llyfrau sy'n fy niddori i. Yn bennaf rwy'n darllen llyfrau ffug-wyddonol, does dim digon o ddewis yn y maes yma i mi. Mae ambell beth fel llyfr Andras Milward ond braidd yn crap/blentynaidd oedd hwnnw.

Ble/sut fyddwch chi'n prynu llyfrau Cymraeg?
ghweler uchod, siopau Cymraeg.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan nicdafis » Iau 16 Ion 2003 5:16 pm

[Gyda'r llaw, Meg, gobeithiaf na fyddi di'n diflannu ar ôl cael y holl ymchwiliad marchnata rhad ac am ddim ;-)]
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Meg » Iau 16 Ion 2003 7:37 pm

Heb ddiflannu, wir yr!
Diolch i bawb am ymateb cystal hyd yma. Difyr iawn, iawn. Roedd y darn am 'ddelwedd o iaith annealladwy' yn arbennig o ddiddorol. Dwi'n cytuno-dwi'n dod ar draws pobol sy'n gyndyn iawn i hyd yn oed edrych ar lyfr Cymraeg, ond unwaith maen nhw'n fflicio drwy dudalennau llyfr sydd ddim yn rhy llenyddol, maen nhw'n deud"W! Dwi'n gallu dallt hwn!" A dyw'r bobol yma ddim yn ddwl o bell ffordd.
Iawn i'r puryddion gwyno am ostwng safonau iaith ayyb, ond dyma i chi sefyllfa y dylid delio â hi ar fyrder. Sôn am dyrrau eifori...
Cytuno efo defnyddio siopau lleol hefyd. Mae 'na rai yn mentro weithiau, ond prin iawn yw'r gwerthiant hyd y gwn i.
Adolygiadau - wrth gwrs. Ond maen nhw'n brin uffernol yn Gymraeg. Cymru yn wlad rhy fach - adolygwyr ofn pechu cyfeillion/teulu. Os oes 'na rai ohonoch chi yn teimlo'r awydd i adolygu llyfrau yn Golwg/Y Cymro/unrhyw bapur lleol, rhowch wybod i'r papurau hynny. Maen nhw'n despret!
Gellid adolygu ar y wefan wych yma hefyd wrth gwrs. Ond mae'r trafodaethau yn gwneud hynny beth bynnag.
Diffyg dewis- problem fawr, ac yn bodoli yn bennaf oherwydd diffyg awduron gyda diddordebau amrwyiol. Dim ond arian teg i awduron all ddod dros hyn. Mae o'n digwydd yn ara' bach. O ia, a mae pawb isio sgwennu ei hunangofiant, neb isio sgwennu nofel. Gormod o waith a dim digon o dâl.
O ia, cwestiwn arall ynglyn ag adolygiadau: ydi adolygiad negyddol yn gwneud i chi beidio darllen llyfr? Onid ydi o'n codi chwilfrydedd weithiau, i weld os ydach chi'n cytuno?
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 7 gwestai

cron