gan Siani » Iau 23 Ion 2003 11:27 pm
Meg - Mae adolygiad gwael yn fy nenu i cymaint ag adolygiad da - mae'n fy herio i fel arfer! Rwy'n cytuno gyda ti am y tal i awduron. Ond rwy hefyd yn credu bod nofelwyr dawnus yn cuddio mas fan'na ond dyw'r gweisg ddim yn mynd ar eu hol nhw. Dyw'r marchnata ddim yn ddigon da chwaith. Mae digon o nofelau llenyddol gyda ni, mae eisiau nofelau poblogaidd ar y Cymry!