Ty Newydd

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ty Newydd

Postiogan Sian Northey » Iau 23 Ion 2003 4:53 pm

Newydd ddod o hyd i Maes-E. Meddwl efallai y byddai gan rai ohonoch ddiddordeb yng Nghyrsiau Canolfan Ysgrifennu Ty Newydd yn Llanystumdwy.

Ionawr 18 - Cwrs undydd canu caeth gyda Mererid Hopwood a Thudur Dylan - i'r rhai sydd yn gwybod rhywfaint yn barod. (OK dwi'n gwybod bod hwn wedi bod, jest i chi gael gwybod be 'da chi 'di golli!)

Ionawr 24-36 Cwrs i aelodau Mudiad y Ffermwyr Ifanc efo Twm Morys a Bethan Gwanas.

Chwef 21-23 Allan o'r Dror - Eigra Lewis Roberts a Manon Rhys. Bydd cyfle i yrru gwaith sydd ar ei ganol i'r ddwy gael golwg arno cyn y cwrs. Cysylltwch am fwy o fanylion. Dwi angen gwybod ar frys os ydydch am ddod ar y cwrs yma!

Mawrth 14-16 Sgriptio ar gyfer y teledu - Dewi Wyn Williams a Meic Povey - yn union be mae o'n ddweud ar y bocs!

Mawrth 21-23 Es y gwanwyn i sgwennu.... Twm Morys a Thwm Elias (cyfle i sgwennu am fyd natur a chefngwlad Eifionydd efo dau gês, diwylliedig)

Mawrth 30 - Ebrill 1 (ia, dwi'n gwybod mai Nos Sul i bnawn Dydd Mawrth ydi'r dyddiada yna!) Ysgrifennu ac Ysbyrdoli - Myrddin ap Dafydd a Robin Llywelyn. Un delfrydol ar gyfer athrawon - holwch am arian Bwrsari Datblygiad Proffesiynol gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

Ebrill 4-6 Cwrs i Ferched - Sonia Edward a Karen Owen. Fel mae pawb sydd wedi bod o'r blaen yn gwybod mae awyrgylch y cyrsiau merched yn unigryw.

Mai 2-4 Cyfieithu a Llenydda - Mererid Hopwood ac Angharad Price. Mae 'na lot mwy i gyfieithu na ffurfleni diflas! What's englyn when it's English?

Hydref 31- Tachwedd 2 Sgriptio ar gyfer y llwyfan - Aled Jones Williams a Sian Summers. Dwi wedi agor llyfr - a hwn ydi'r fferfryn i lenwi gynta, pe tae ond pawb sydd newydd fod yn gweld Ta ra Teresa!

Tach 7- 9 Dechrau Ysgrifennu - Aled Lewis Evans a Mair Tomos Ifans. Cwrs ar gyfer dechreuwyr o bob oed ac ym mhob maes.

Dewis un ydi'r broblem yn de?
Croeso i chi godi'r ffôn os am holi mwy (01766 523 237)
Sian Northey
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Iau 23 Ion 2003 4:45 pm

Postiogan nicdafis » Gwe 24 Ion 2003 12:39 pm

Ti ddim wedi meddwl am agor Ty Newydd newydd, rhywle fel Llangrannog, fallai ;-)

A fydd Gwyl Cynghaneddol 'to eleni? Joiais i'r un gyntaf tu hwnt, er mod i gwbl mas o'm ddyfnder gyda'r holl feirdd 'na.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 24 Ion 2003 12:43 pm

O, a chroeso i'r Maes, gyda'r llaw ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Siani » Sul 30 Maw 2003 12:46 pm

Ar ol bod ar y cwrs "Sgriptio ar gyfer y teledu" yn ddiweddar, 'swn i'n annog unrhywun sy wedi bod yn meddwl amdani ond yn petruso i fynd! Rwy'n gwybod o sgyrsiau yn y gorffennol bod sawl un ar y Maes sy'n cytuno a fi ynglyn a'r lle. Roedd y cwrs yn werth pob ceiniog, y tiwtora o safon uchel dros ben, y croeso yn gynnes - yn enwedig ar ol gyrru am bedair awr i gyrraedd 'na! Doedd neb yn y grwp yn nabod ei gilydd cyn mynd, ond ar ddiwedd y penwythnos ro'n ni i gyd wedi tynnu at ein gilydd a chlywais i sawl un yn dweud eu bod nhw ddim eisiau gadael ar ddydd Sul.

Diolch Sian, a phawb yn Nhy Newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Alys » Llun 31 Maw 2003 10:52 am

Oes na rywun arall yn mynd i <a href = "http://www.tynewydd.org/Gwyl%202003.htm"> Wyl Ty Newydd</a> ar 11-13 o Ebrill?
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai