Rhyfedd...pam mai dim ond ar Maes E dwi'n 'cyfarfod' pobol sy'n canmol Mr Morgan? Yn y byd go iawn (y tu allan i goleg Aberystwyth/Academia) mae pawb yn troi eu trwynau: "Iawn, dim byd sbeshal."
A dwi'm yn gweld be di'r holl ffys chwaith.
Ella mai twp ydi hi, meddach chi.
Na, mae gen inna radd (mewn pwnc anodd.)
Dwi'n mwynhau Kafka a Camus.
Dwi'n gallu newid ffiws mewn plwg.
Ond gwirioni ar waith Mihangel? Na, wedi methu.
Dwi wedi trio, wir yr, a dwi licio fo fel person, ond fel'na mae hi weithia.
'Nes i fwynhau Seren Wen ond ges i lond bol ar yr Harbwr ar ôl ychydig dudalennau.
Pam? Dim clem. Ges i'r myll a dyna fo.