Croniclau Penre Simon - Mihangel Morgan

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Croniclau Penre Simon - Mihangel Morgan

Postiogan Blewgast » Sad 20 Rhag 2003 10:44 pm

Os rhywun wedi darllen hi??

Dwi wedi, a rodd e'n wych.....do'n i ddim yn siomedig o gwbl - ma'r hen Fihangel wedi llunio campwaith eto!! :lol:

Beth yw barn pawb arall??

:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan Ray Diota » Iau 25 Rhag 2003 7:48 pm

Newydd gal y CRONICLAU... i ddolig, edrych yn waith caled i fi, myn diawl i, ond gewn ni weld, ife?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Jacfastard » Gwe 26 Rhag 2003 12:05 pm

Ray Diota - 'Ymlaen yr Arfordirwyr' yw'r term cywir

... cyfieithydd o ddiawl
Jacfastard
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 238
Ymunwyd: Sad 18 Hyd 2003 6:13 pm

Postiogan Leusa » Iau 18 Maw 2004 7:13 pm

wel wel, son am lyfr gwahanol!
Arddull gwbwl newydd, o'ni yn licio'r ffordd oedd o'n newid o un lle i'r llall, a roedd y twist o ddarganfod be oedd y Pentre go iawn yn ddifyr iawn.
Gweld y cymeriadau real braidd yn debyg i gymeriadau eraill MM - Y ddau ddyn yn debyg iawn i Melog a'r Doctor yn y nofel Melog.
Stori hollol wych -ond dwi'm yn meddwl gallen i'w darllen hi eilwaith
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Blewgast » Gwe 19 Maw 2004 10:59 am

Stori hollol wych -ond dwi'm yn meddwl gallen i'w darllen hi eilwaith


Jiw - tyrd mlaen!! darllenais i croniclau yr eilwaith y dwrnod o'r blaen yn y syrjeri i basio amser.......ac roedd o yr un mor afaelgar!!
Dwli ar ei gymeriadau, a'r teitlau yn y pennodau gwahanol! :winc:
[/code]
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Croniclau...

Postiogan Gowpi » Gwe 19 Maw 2004 11:59 am

Wedi ei fwynhau mas draw - dros ben llestri, jyst fel Mihangel - fy hoff awdur cyfoes Cymraeg.
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan Leusa » Gwe 19 Maw 2004 10:59 pm

mi oedd y darn efo'r dewin a'r afr a'r ddwy ddynes yn andros o ddoniol!!!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

A ddylid saethu'e beirniaid?

Postiogan Meliarth » Maw 23 Maw 2004 11:48 am

Y Croniclau yw'r nofel orau i weld golau dydd ers tro byd. Trueni na fyddai beirniaid Llyfr y Flwyddyn wedi gweld hynny. Does ganddyn nhw ddim chwaeth.

Mae'r Croniclau lot yn well na Dyn yr Eiliad. Hirwyntog ydy honno,

Ac am y rybish yna mae Sonia Edwards a Cefin Roberts yn ei sgwennu. Duw a'n helpo.

Falle ei bod yn beth da nad yw Mihangel wedi gwneud rhestr fer Llyfr y Flwyddyn leni. Mae'n llawer rhy dda i gwmni mor salw.
Meliarth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Iau 18 Maw 2004 12:57 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Blewgast » Maw 23 Maw 2004 11:53 am

Mae'r Croniclau lot yn well na Dyn yr Eiliad. Hirwyntog ydy honno,

Ac am y rybish yna mae Sonia Edwards a Cefin Roberts yn ei sgwennu. Duw a'n helpo.


Ewadd annwl!! :ofn: Geiriau eithafol te!!

I ryw radde, cytunaf - dylai Mihangel fod yn y rhestr Llyfr y Flwyddyn.....ond eto i gyd, dwi'n meddwl bo Sonia Edwards yn haeddu bod na fyd!
Dyn yr Eiliad...weeeeeel, dwi'n eitha hoffi'r llyfr...

Chwaeth yw e yn y pen draw te?! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Dydy Sonia Edwards ddim yn haeddu ei lle

Postiogan Meliarth » Mer 24 Maw 2004 11:04 am

Mae'n ddrwg gen i anghytuno. Ond dydy Sonia Edwards ddim yn haeddu ei lle ar y rhestr fer hir.
Mae ganddi arddull gain iawn mae'n wir. Ond rwyn teimlo ar ol darllen ei gwaith fel rhywun sydd wedi stwffio ei hun yn ormodol efo Tyrcish Dileit.

Yr un yw thema ei nofelau i gyd - secs, secs,a MWY o secs.Mae'n bryd iddi gael tant newydd i'w thelyn.

Mae ei nofelau hi hefyd yn fyr iawn. Pamffledi nid nofelau mae hi yn ei ysgrifennu. Mi fyddai'n dda ei gweld yn wynebu'r her ac yn ysgrifennu nofel go iawn.

Ymddiheuriadau am fod yn groes ond dydy hi ddim yn yr un cae (na'r un bydyswad0 a Mihangel.
Meliarth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Iau 18 Maw 2004 12:57 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai