Clwb Llyfrau

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Alys » Maw 17 Medi 2002 8:02 am

Ydw, dwi'n mynd i'r cwrs yn Nhy Newydd. Mae eu cyrsiau nhw yn wych (wel mae'n dibynnu ar y tiwtoriaid debyg iawn, ond mae'r awyrgylch yn hyfryd hefyd a dwi wedi mwynhau fy hun yno bob tro!), byddwn i'n eu hargymell i unrhyw un â diddordeb mewn sgwennu.
Wyt ti wedi bod ar gwrs yno, Siani?
Ydi, mae'n biti am eu prinder arian, gobeithio y byddan nhw'n llwyddo i gael eu hariannu'n llwyddiannus cyn hir.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Siani » Mer 18 Medi 2002 10:51 pm

Ydw, rwy wedi bod ar gwrs yn Nhy Newydd. Mae'r awyrgylch yno yn arbennig. Mae'n bosib ymlacio yno a chanolbwyntio. Pa fath o bethau wyt ti'n ysgrifennu, Alys?

Ar ol canu clodydd y lle mae rhaid i fi ddweud mod i ddim yn credu ei bod hi'n bosibl dysgu neb i ysgrifennu. Oes barn gyda rhywun arall ar hyn?

OND rwy hefyd o blaid cyrsiau ysgrifennu. Gwrthddweud fy hunan? Na. Rwy'n siwr eich bod chi'n gallu dysgu technegau newydd ac ati ar gyrsiau o'r fath, ond os yw rhywun o ddifrif am ysgrifennu rwy'n credu byddan nhw'n gwneud hynny beth bynnag, o bob ffynhonell posibl, bob dydd. Rwy'n credu mai cryfder canolfan fel Ty Newydd yw dod ag awduron ynghyd, i rannu profiadau a syniadau a dysgu hyder. Mae ysgrifennu (rhyddiaeth, beth bynnag) yn weithgaredd unig - mae'r beirdd yn dod at ei gilydd yn aml, mae'n bwysig i awduron rhyddiaeth wneud hynny hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Alys » Iau 19 Medi 2002 9:19 am

Cytuno, byddai'n anodd 'dysgu' rhywun sut i sgwennu, ond mae cyrsiau o'r fath yn helpu pobl datblygu sgiliau, trafod (a chael!) syniadau, cael mwy o hyder, neu hyd yn oed darganfod bod y gallu ynddyn nhw! A fel ti'n dweud, mae'n braf cael criw yn dod at ei gilydd mewn lle braf efo o leia un peth - sgwennu - yn gyffredin, o bobl profiadol i ddechreuwyr yn y maes sgwennu. I drafod ac i gael amser a llonydd i sgwennu. Dwi wedi ffeindio bod pobl yn gefnogol iawn i'w gilydd.
Dwi 'di sgwennu ambell i stori fer, be amdanat ti? (neu unrhywun arall o'r bobl smotiog na? (Dwi'm yn bod yn bersonol, cofiwch, dim ond cyfeirio at gynllun newydd Nic))
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Eirian » Sad 21 Medi 2002 7:44 pm

Dw i newydd ymuno a'r fforwm- mae'r syniad o glwb darllen yn apelio er gwaethaf yr anawsterau. Unrhyw syniadau pellach am lyfr addas? Mae digon o ddeunydd trafod yn Y Pla!
Eirian
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Sad 21 Medi 2002 11:35 am
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Postiogan Siani » Sul 22 Medi 2002 2:04 am

Croeso i'r fforwm, Eirian! Gobeithio y byddi di'n cyfrannu'n aml!

Alys - rwy'n sgrifennu rhyddiaeth - straeon. Rhai pethau byr, rhai pethau hirach. Y peth pwysicaf i awdur, yn fy marn i, yw'r ewyllys, yr ysfa, yr ystyfnigrwydd i greu, i ddweud stori. Os yw'r nodweddion hyn gyda chi, byddwch chi'n dod o hyd i'r ffordd i lwyddo. Rwy'n credu bod pobl naill ai'n cael eu geni gyda'r nodweddion hyn (a'r dychymyg cynhenid) neu dyn nhw ddim, ond wedyn mae rhaid cywreinio a hyfforddi - dysgu crefft. Os yw'r ysfa gyda chi, gallwch chi lwyddo, heb amheuaeth. Mae cyd-weithio, a chysylltu ag awduron eraill yn hanfodol, a dyw hi ddim yn digwydd yn ddigon aml. I fi, does dim gwahaniaeth rhwng pobl sy wedi bod yn ysgrifennu am sbel, a'r rhai sy'n newydd i sgrifennu, y sawl sy wedi cael eu cyhoeddi, a'r rhai sy'n dal i ddisgwyl am hyn - os yn ni'n sgrifennu, yn ni i gyd yn awduron, yn sgrifennwyr go iawn, a diffyg hyder yw'r prif elyn. Mae cymaint o bobl yn y wlad fach hon 'da chymaint i'w ddweud. Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod!
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Alys » Llun 04 Tach 2002 9:10 am

Be fydd ein dewis llyfr ar gyfer mis Rhagfyr?
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Siani » Llun 04 Tach 2002 8:09 pm

Mae sawl un wedi awgrymu awduron yn "Hoff Lyfrau", ac maen nhw'n swnio'n rhai cyffrous - ond mae rhaid cael enwebiadau nawr ar gyfer llyfrau penodol. Rwy'n hapus i greu pol piniwn newydd, ond mae rhaid i chi i gyd awgrymu o leiaf pedwar llyfr i fi. Dw i ddim yn gwybod os bydd pawb arall yn cytuno, ond i fi, gall fod yn y Gymraeg neu'r Saesneg, yn ffuglen neu'n llyfr ffeithiol. Diolch am dy sylwadau di ar "Y Pla" - byddaf yn ymateb yn fuan. Beth am rywbeth sy'n fwriadol wahanol iddi? Beth bynnag - enwebiadau, plis!
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Alys » Maw 05 Tach 2002 8:52 am

Mae bron bob dim yn wahanol i'r Pla!
Rhai awgrymiadau: os wyt ti'n sôn am bethau Saesneg (dwi'n falch nad y fforwm chwaraeon di hwn :winc: ) yna dwi'n darllen Life of Pi, Yann Martel, ar hyn o bryd, sy'n wych a lot i'w drafod yno; dan ni di sôn am Iain Banks, beth am ei lyfr newydd Dead Air (sy gen i yma i'w ddarllen) neu mi fyddwn yn fodlon ailddarllen unrhywbeth ganddo - dwi'n credu bod na sôn am Wasp Factory wedi bod. Mae nifer o bobl wedi sôn am ffantasi, wel sylwais yn y llyfrgell yn ddiweddar bod nofel Terry Pratchett wedi ei throsi i'r Gymraeg - unrhyw ddiddordeb? Yn gwbl wahanol, dan ni wedi sôn am Traed Mewn Cyffion. Neu Wele'n Gwawrio?
Ond dwi'n meddwl, a wyt ti di deud hefyd, mae clwb llyfrau yn ffordd dda i gael syniadau newydd gan bobl eraill, felly be wyt titha'n ei awgrymu - neu unrhywun arall?
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron