Mae bron bob dim yn wahanol i'r Pla!
Rhai awgrymiadau: os wyt ti'n sôn am bethau Saesneg (dwi'n falch nad y fforwm chwaraeon di hwn
) yna dwi'n darllen
Life of Pi, Yann Martel, ar hyn o bryd, sy'n wych a lot i'w drafod yno; dan ni di sôn am Iain Banks, beth am ei lyfr newydd
Dead Air (sy gen i yma i'w ddarllen) neu mi fyddwn yn fodlon ailddarllen unrhywbeth ganddo - dwi'n credu bod na sôn am
Wasp Factory wedi bod. Mae nifer o bobl wedi sôn am ffantasi, wel sylwais yn y llyfrgell yn ddiweddar bod nofel Terry Pratchett wedi ei throsi i'r Gymraeg - unrhyw ddiddordeb? Yn gwbl wahanol, dan ni wedi sôn am Traed Mewn Cyffion. Neu Wele'n Gwawrio?
Ond dwi'n meddwl, a wyt ti di deud hefyd, mae clwb llyfrau yn ffordd dda i gael syniadau newydd gan bobl eraill, felly be wyt titha'n ei awgrymu - neu unrhywun arall?