gan Alys » Mer 11 Medi 2002 10:49 am
Mae'n syniad da mewn egwyddor, a dweud y gwir 'dan ni newydd ddechrau clwb o'r fath yn lleol, roedd y cyfarfod 1af yn ddiddorol, wnathon ni drafod 'Siabwcho' Marged Lloyd Jones. Mewn gwirionedd, mae'n well gen i drafod "go-iawn" yn hytrach nag ar-lein, pawb yn gweld fy sylwadau twp ar goedd, ayb., ond gan fod Abertawe yn ddigon pell ... dwi'n fodlon rhoi cynnig arni, os bydd gan bobl eraill diddordeb, yn arbennig am ei fod yn ffordd i gael darllen pethau sydd wedi'u hargymell gan bobl eraill, efallai na fyddwn i wedi'u darllen fel arall.