gorffen limrig!

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan denzil dexter » Mer 20 Ebr 2005 2:14 pm

Mae Tony a Mike wrthi'n brwydro
mae anochel yw rhechu wrth biso
yn un fawr neu un fach
yn un fudur neu iach,
neu yn lwmpyn o gachu, wel damio!
Rhithffurf defnyddiwr
denzil dexter
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 537
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 9:17 am
Lleoliad: Os na dwi'n fan hyn - dwi rhwle'n agos!

Postiogan khmer hun » Mer 20 Ebr 2005 3:05 pm

Mae Tony a Meic wrthi’n brwydro
yn trio cael pawb mas i fôtio,
ond yma, DI
ac Elfyn a Si
yw’r enwe sy' raid ni'u cofio.



(propaganda limrigol... boring)
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Ray Diota » Mer 20 Ebr 2005 3:25 pm

Tra'n syllu ar sgrin ei liniadur
A byseddu'i ffor trwy'r geiriadur
Rhaid edrych lan 'prostad'
Och! Ma cyfeithu yn fastad
Ond rhaid gwneud neu fod yn fethdalwyr
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Ray Diota » Mer 20 Ebr 2005 3:29 pm

Mae Tony a Meic wrthi’n brwydro
Yn erbyn tramorwyr yn crwydro
I'n hynys bach ni
'Da ni'n Brits wyddoch chi!'
Ma'n ddigon i hala fi grïo
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan khmer hun » Mer 20 Ebr 2005 3:44 pm

Mae Tony a Meic wrthi’n brwydro -
ond s'dim ots gennyf fi am ganfasio,
na phleidlais, na phwy
fyse’r gore i’r plwy’;
Ond weithie, ’wy yn lico cwyno...
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Prysor » Iau 21 Ebr 2005 5:00 pm

:D mae 'na safon uchel iawn wan gyfeillion.

etholwyd Pab newydd yn Rhufain
am fod yr un dwytha yn gelain
ond mae hwn jest yn clon
o'r llall yn y bon,
a bydd affrica dal i wylofain
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan khmer hun » Iau 21 Ebr 2005 5:24 pm

Etholwyd Pab newydd yn Rhufain
Ac ynte yn ddeunaw a thrigain,
Fel y llall mae e'n glen,
Ond fel pechod o hen
Faint fydd 'na nes y cwymp hwn yn gelain?


yyyy.... old anodd Prysor! :saeth:
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Prysor » Iau 21 Ebr 2005 5:49 pm

ti'n iawn khmer

mae Peter am sefyll yn Blaina
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Ray Diota » Gwe 22 Ebr 2005 1:07 pm

Di newid y linell 1af tam bach Prysor:

Yn Rhufain, penodwyd Pâb newydd
I barhau i adrodd y celwydd
Bod condoms ac erthylu
Yn fath o droseddu
A bydd neb yn gwrando o'r herwydd
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Prysor » Gwe 22 Ebr 2005 1:42 pm

bendigedig!

Mae Peter am sefyll yn Blaina
Yn erbyn plaid ei gyn-ffrindia,
Am eu bod nhw yn mynnu
Rhoi merched i fyny,
Di hynny'm yn iawn medda fynta.

...pwnc anodd braidd...
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron