Tudalen 18 o 19

PostioPostiwyd: Llun 12 Medi 2005 3:17 pm
gan Meic P
Ma' pobol y cwm wedi gwella
Wel dyna yw'r si rownd y swyddfa
Dwi newydd weld mochyn
yn ffwcio morgrugyn
Dwi'n colli y plot cont! Be nesa?

PostioPostiwyd: Llun 12 Medi 2005 6:24 pm
gan denzil dexter
Mae pobl y cwm wedi gwella
wife beaters a toyboys gawn yna
mae lesbians a'u chwant
a hen wraig yn cael plant..
ac allaim meddwl am punch line - dwi o 'ma!

PostioPostiwyd: Llun 12 Medi 2005 7:15 pm
gan Leusa
Mae pobl y cwm wedi gwella
Ers i Rej Harris fynd o 'na.
Hefyd mi ath Llew-
dyna ddau foi tew,
watch out Denz, ti fydd nesa.

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2005 6:36 pm
gan Prysor
Mae Bobol y Cwm wedi gwella
Ers ei werthu i Sawdi Arabia,
A sdim posib ei wylio
Heblaw wedi'i ddybio,
Yn ecscliwsif ar Al Jazeera.

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2005 6:41 pm
gan Prysor
Mae Bobol y Cwm wedi gwella
Ers ei symud i bedwar y bora,
A newid yr actors
I ddefaid a tractors,
A dim ond pum munud ma'n bara'.

PostioPostiwyd: Iau 15 Medi 2005 4:57 pm
gan khmer hun
Gawn ni linell newydd eto fyth? Sori am fod yn tsi^ci.

PostioPostiwyd: Iau 15 Medi 2005 5:18 pm
gan Prysor
hmmm, gan fod hi'n amlwg bod Khmer yn cael traffarth meddwl...

Am neud comeback mae Dafydd a Dafydd

PostioPostiwyd: Gwe 16 Medi 2005 4:33 am
gan Hen Rech Flin
Am wneud cymbac mae Dafydd a Dafydd
Ow! Gwych! Dathlwn! Newyddion ysblennydd!
Ond yn wir - wir i chi
Sa llawn well gen i
Cael Cath Ddu yn swydd yr arweinydd

Celwydd rhonc (poetic licence), wrth gwrs, Guto :D

PostioPostiwyd: Gwe 16 Medi 2005 9:35 am
gan denzil dexter
"Am wneud cymbac mae Dafydd a Dafydd"
Meddai Wigley ac El mewn llawenydd
mae Ieuan Wyn Jones
yn hen llinyn trons
ac yn sicr, nid yw yn arweinydd.

PostioPostiwyd: Maw 13 Rhag 2005 5:15 pm
gan Mici
Amser am un newydd

Clec fawr fu ar fore Sul

Clec fawr fu ar fore Sul
Mae'r byd ar ben nol bobol cul
Mwg du ar garlam
Nid Osama na Saddam
Dim olew ar ol, rhaid reidio mul