Tudalen 19 o 19

PostioPostiwyd: Gwe 27 Ion 2006 3:15 pm
gan Iestyn ap
Mae wedi bod dros mis bellach ers y cyfraniad dwetha', felly o'n i wedi meddwl am ail-wampio'r edefyn. Rydym ni ein gyd wedi clywed am Gordon Brown a'i gynlluniau i gael "Dydd Prydain", felly beth am 'sgrifennu limrig ar y linell agoriadol:

"Gwyl"! - Gwaeddodd Gordon i'r wasg...

Neu os y dymunwch chi be' am 'sgrifennu un eich hunan ar y testun. :D

PostioPostiwyd: Gwe 27 Ion 2006 4:12 pm
gan Prysor
Un sydyn iawn. Ar hast.....

Rhaid cael gwyl i Brydeindod medd Gordon,
Cyn rhestru gorchestion y Saeson
A gwneud ffwl o'i hun
Wrth fynd yn styc ar

PostioPostiwyd: Gwe 27 Ion 2006 7:59 pm
gan Iestyn ap
"Gwyl"! - Gwaeddodd Gordon i'r wasg,
W'i methu ag aros tan Pasg,
Cewn glodfori y Cwin,
Efo'n fflagiau obscene,
"To promote Englishness is the task".

Cwin = Queen, w'i dal ffili cyfuno y ^ ar yr allweddell. :?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Ion 2006 9:59 pm
gan Ioan_Gwil
Gwyl i'r frenhines gan gordon
Cawn glodfori y queen gyda'i choron
Er, bysa ninna'm yn dathlu
Yn wir, sa ni'n rhythu
A chael parti i'n hunain 'n Nanhoron

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 8:16 pm
gan Prysor
Rhaid dathlu Prydeindod medd Gordon,
Fictoria a George a Diwc Welington,
A'r gwledydd a goncrwyd,
A'r trysorau a ddygwyd,
A'r cenhedloedd a chwalwyd yn yfflon.

Re: gorffen limrig!

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2010 1:54 pm
gan khmer hun
Oes na rywun mas 'na sy'n darllen ac a fyddai'n hapus i ailddachre'r limrigau? Un o'r edefynne gore ar faes-e...

Re: gorffen limrig!

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2011 2:11 pm
gan khmer hun
Bw hw.

Re:

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2011 9:12 pm
gan SerenSiwenna
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Medd Tony wrth Cherie un noson:
"Pam nad y'm ni yn cnychu'n fwy cyson?
Pan gawsom ni'r plant
Ti oedd ffocws fy chwant
Ond nawr gwell gen i Diane Abbott a'r strap-on!"


Ew, da iawn, cnychu'n fwy cyson yw athrylith y gerdd :P