Tudalen 3 o 19

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 12:37 pm
gan brenin alltud
Daeth Cerys i Sesiwn Dolgella
Yr holl ffor' o'r Unol Daleithia,
Gydag Avanti yn ffilmio
A'r glaw ddim yn stopio -
Dim rhyfedd bod hi'n crap yn chwara!



:? sori cerys - o'n i 'di mwynhau'r perfformiad!

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 12:54 pm
gan eusebio
Daeth Cerys i Sesiwn Dolgella'
Ond pam ddiawl ddaru hi'm aros adra?
Roedd ei set hi yn shit
Gan ganu yr un hit
Roedd well o lawer gen i Catatonia

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 12:59 pm
gan Llewelyn Richards
Daeth Cerys i sesiwn Dolgella
A'r dorf o'i blaen aeth yn gaga
"Yn lle mae'r Gymraeg?"
"Be di hyn - Hebraeg?"
A chafwyd storm fellt a tharanau

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 1:22 pm
gan brenin alltud
Oce, detholiad bach a na hi wedyn:

Daeth Cerys i Sesiwn Dolgellau
A methu cael gwesty yn nunlla,
Fydd Glenys na hi,
Na Seth, siwr i chi,
Fyth r'un peth ar ol aros yn Bala.


Daeth Cerys i Sesiwn Dolgella
A dewis mynd i wersylla.
Fyny'r Gader a nhw
heb yr un TV crew,
A gweled eu Duw'n y cymyla.


Daeth Cerys i Sesiwn Dolgella
Yn barod i ganu 'i gora
'Arglwydd,' medd hi,
'Dw i ar d'alwad di'
Ond roedd O ar y sgwar yn diota!

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 1:25 pm
gan Llewelyn Richards
Os daw hi'n bleidlais yr ola o'r detholiad di'r gorau.

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 1:53 pm
gan Geraint
Daeth Cerys i sesiwn Dolgella
I weld pwy all para y hira
Hi ar y jac
Neu Endaf ar crac
Ma’r ffwtij ar gael i’r bid mwya

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 2:50 pm
gan Prysor
Daeth Cerys i Sesiwn Dolgella
Run amsar a'r on i'n mynd o'na,
Cawsom grash ar y bont
Fewn i tour-bus y gont,
Oedd yn dreifio run ochor a Merica.

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 2:52 pm
gan eusebio
Un prysor sydd yn ennill :lol:

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 3:07 pm
gan Prysor
:D

Mae Sbiderman 'di symud i Fangor

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 3:25 pm
gan Geraint
Mae sbiderman di symud i fangor
Ar y dôl odd o adre, dramor
Fe ffindiwch e nawr
Ar y stryd fawr
Yn gwerthu’r gwe sâl fel ffug gedor