Tudalen 4 o 19

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 3:48 pm
gan Dielw
Enw'r limeric yma yw Merched JMJ, Moch Budr? (dim offens).

Mae Spiderman di symud i Fangor
a gadael Dunst wrth yr allor
i achub bois JMJ
rhag merched y lle,
er mai troi'n gê yw fy nghyngor.

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 3:54 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ger - shwt yn y byd mae Bangor a pwdr yn odli? :rolio:

Mae Sbiderman di symud i Fangor
Lle mae'n gweithio yn y sbyty fel porthor
Ond mae'n ysu i shelffo
Y gals pert sydd yno
Yn glou cyn i'w goc droi i farmor!

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 4:30 pm
gan brenin alltud
eusebio a ddywedodd:Un prysor sydd yn ennill :lol:


Rhaid iddo fe rili, doedd, a fynte'n Arch-Goc-Limrigwr Cymru!!! :winc:

O go on te...

Ma Sbiderman di symud i Fangor
Er mwyn aros i'r Plaza agor,
Ond rol methu cael tocyn
Benderfynodd yr hogyn
Drio'i lwc yn y virgin megastôr...

(JMJ that is... :D )

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 6:34 pm
gan Prysor
clasic, a chlyfar iawn mistar alltud - a chraff a doeth yw eich sylwadau, hefyd, os cai ddeud... :winc:

Mae Sbiderman di symud i Fangor
A chael damwain yn bog Ship 'n' Anchor
Ar ryw nos Lun
Pan bisodd ei hun
Am bod balog ei siwt o'n cau agor.

.

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 10:08 am
gan Prysor
Mae edefyn y gorffen limrig
Wedi bod yn un eitha arbenig
Bu'n boblogaidd iawn
Bob bore a pnawn,
Ond rwan does neb yn rhoi cynnig!

be sy'n bod? OFN??????!!!!!!! :winc:

A CHITHA EFO LIMRIGS MOR DDA HEFYD !

c'mon y ffernols. :winc:

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 10:14 am
gan Llewelyn Richards
OK testun newydd. Naws eisteddfodol i hon.

Wrth ganu'n y cor ar y llwyfan...

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 10:30 am
gan mam y mwnci
wrth ganu'n y cor ar y llwyfan,
gath y beirniaid lond llygad a hartan,
wrth i ferched y boncia,
ddangos mwy nag eu donia',
heb run nicar'n cael hwyl ar y can can!

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 11:00 am
gan Prysor
:lol:

Wrth ganu i'r cor ar y llwyfan
Fe drodd y cyfeilydd yn swejan
Grwn ei phen ol,
A disgyn o'i stol,
A rowlio i ffwrdd 'ddar y llwyfan.

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 11:32 am
gan brenin alltud
Limrig braidd yn besimistaidd ond na hi...


Wrth ganu'n y côr ar y llwyfan
Fe welais i fochyn yn hedfan,
Efo gwich go fain
Fe waeddodd y swine
'Daw Senedd i Gymru yn fuan!'

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 11:42 am
gan Prysor
Newydd sylwi mod i wedi defnyddio 'llwyfan' ddwywaith yn yr un limrig! Dydi hyn ddim yn gywir, wrth gwrs, felly peidiwch neud o adra blantos!

och a gwae :wps:

:ofn: