Tudalen 5 o 19

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 11:45 am
gan Llewelyn Richards
Dwi wedi "benthyg" ail linell Prysor.

Wrth ganu'n y cor ar y llwyfan
Fe drodd y cyfeilydd yn hwran
Roedd ganddi VD
Fe'i cafodd gan gi
Yr Athro Derec Llwyd Morgan

Plis anfonwch siec os da chi eisiau cyfrannu at fy nghostau llys a iawndal.

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 11:51 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Wrth ganu'n y côr ar y llwyfan
Fe deimlais yr ysfa i rechian
Ei dal oedd yn frwydr
Yn sydyn daeth ffrwydr
Ac i fyny i'r to bu i mi hedfan...

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 12:59 pm
gan eusebio
Wrth ganu'n y côr ar y llwyfan
Fe darodd Huw anferth o rechan
Roedd y baswyr yn chwydu
A'r altos yn llewygu
Nid y rhech oedd yn ddrwg ond y twrdan

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 1:04 pm
gan brenin alltud
Selection bach 'to.... mae rhai fi'n lan bob tro i gymharu a'r lleill!


Wrth ganu'n y cor ar y llwyfan
Daeth Bryn Fôn ymlaen yn ei goban
Fe geision nhw’i ddal
Am’i fod e’n dwlal,
A’i arwain ar’i union i’r seilam.

Wrth ganu’n y cor ar y llwyfan
Fe weles i wallt Rhodri Morgan
Wel, na chi fop
Sda’r boi ar’i dop,
Rhaid bod y Cynulliad yn gwegian!

Wrth ganu’n y cor ar y llwyfan
Fe weles i Grav yn cael ffitan
Yn gweiddi yn groch
“Ewch o’ ma’r moch!”
Yn gandryll a’i gleddyf yn chwifian.

Wrth ganu’n y côr ar y llwyfan
Daeth Gruff SFA yno’i sbecian
“Wel, dach chi’n shit,
A’i nol y drym-kit,
A chreu meri-hel gyda Cian.”


:wps:

PostioPostiwyd: Maw 27 Gor 2004 3:24 pm
gan Prysor
:lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

cwbwl lot onach chi on fform heddiw bois!

Wrth ganu mewn cor ar y llwyfan
Roedd coesau'r soprano yn gwegian,
Aeth hithau yn goch
A phiws ymhob boch,
Yna'n las - roedd yn tagu ar fferan!

Wrth ganu mewn cor ar y llwyfan
Dechreuodd yr altos 'gyd iodlan,
Aeth y baswyr off cord
A'r sopranos yn bord
A'r baritons gyd-gerddodd allan.

Wrth ganu mewn cor ar y llwyfan
Medd y beirniad "mae'r sopranos 'gyd allan",
Doedd ganddo ddim dewis
Ond nol Robin Lewis
A'u dyfarnodd yn brifeirdd mewn chwintan.

Wrth ganu mewn cor ar y llwyfan
Aeth y cyfeilydd yn nyts yn y cytgan,
Fe'i llusgwyd i ffwrdd
Wedi'w strapio i fwrdd,
Medd y beirniad, "Mae gin honna chwilan".

PostioPostiwyd: Iau 31 Maw 2005 4:14 pm
gan Ray Diota
Atgyfodwn :D ... rhywun i roi llinell deche i ni, dwi methu meddwl am ffac ôl...

PostioPostiwyd: Iau 31 Maw 2005 4:26 pm
gan lleufer
Dyrchafodd bwgan brain Cymuned...

Fallai 'sa hyn yn well...

Cyfododd bwgan brain Cymuned...

PostioPostiwyd: Llun 04 Ebr 2005 4:42 pm
gan Prysor
Cyfododd bwgan brain Cymuned
Yn sydyn heb imi weled,
"Sut ddoist di i fan hyn?"
Gofynnais yn syn,
Dywedodd ei fod wedi cerdded.

PostioPostiwyd: Llun 04 Ebr 2005 9:26 pm
gan lleufer
Prysor a ddywedodd:Cyfododd bwgan brain Cymuned
Yn sydyn heb imi weled,
"Sut ddoist di i fan hyn?"
Gofynnais yn syn,
Dywedodd ei fod wedi cerdded.


:D :D Campus! :D :D

...

Cyfododd bwgan brain Cymuned
Pwy a wyr o ble wnaeth o gerdded?
I ddychryn sawl sais,
Di-ddeud a sarhaus.
I'r Cymry y mae ef yn deyrnged.

PostioPostiwyd: Llun 04 Ebr 2005 11:24 pm
gan Dai dom da
Wrth ganu mewn cor ar y llwyfan,
Cachodd y beirniad ei hunan,
Fe gododd yn syn,
A'i wyneb yn wyn,
'O shit' fe ddwedodd yn pwffian.

(sori, mae'n hwyr! :wps: )