Tudalen 7 o 19

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 11:24 am
gan Ray Diota
Fe briododd Charles a Camila
A hithau â wep fel Godzilla
Dyna'i gyd odd ar teli
so rosais yn gwely
Fel digwyddiad, roedd yn reit dila.

Ond roedd y deirawr ar esfforsî
Yn ddigon i nghynddeirio i
Er sgwennu sawl neges
Rhaid oedd mynd yn legless
I anghofio am agwedd rhai Cymry

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 11:24 am
gan denzil dexter
wrth gerdded o'r dafarn drwy'r eira
gwelais wiwer, a dwedodd yn smala
paid a meshan fo fi
dwi'n ffocin nyts, wyddost ti
a fi di owner ffatri nutella

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 11:59 am
gan khmer hun
Prysor a ddywedodd:Wrth gerdded o'r dafarn drwy'r eira
Ges i ffrae fo dyn eira go dena,
A alwodd fi'n 'ffati',
Atebais, "ella mod i
Ond o leia fyddai yma'n y bora!"


Wel, aga campus.


Wrth gerdded o'r dafarn drwy'r eira
Rôl yfed ryw ddeuddeg tequila
Fe weles i Duw
Ar waelod y rhiw
'Di slejo i lawr o'r cymyla!

:saeth:

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 12:54 pm
gan denzil dexter
Cyn pryd bwyd, mae 'rhen Wil yn dweud pader
.............................................
.......................
.....................
.......................................... :winc:

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 1:04 pm
gan Prysor
Cyn pryd bwyd mae Wil yn dweud pader
Tra'n ista'n ben bwrdd yn ei gader,
Mae'n diolch am gyrri
A chips, pys a grefi,
Er mai salad mae'n futa fel arfer.

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 1:17 pm
gan denzil dexter
Waw, ti ar dan Prysor!

Cyn pryd bwyd mae 'rhen Wil yn dweud pader
pan ollyngodd hymdingar o stincer
ar ol dweud ei amen
fe gododd ei ben
a gweld pawb di llewygu'n eu cader!

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 1:45 pm
gan mam y mwnci
cyn pryd bwyd mae'r hen willi'n dweud pader
A'i wraig Mary'n cael wanc yn ei chader
tra mae lygaid ar gau
ma' hithau'n mwynhau
defnyddio'r sos coch fel vibrater (sillafu i odli sori!) :wps:

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 2:02 pm
gan Ray Diota
mam y mwnci a ddywedodd:cyn pryd bwyd mae'r hen willi'n dweud pader
A'i wraig Mary'n cael wanc yn ei chader
tra mae lygaid ar gau
ma' hithau'n mwynhau
defnyddio'r sos coch fel vibrater (sillafu i odli sori!) :wps:


Mam y mwnci, dwi'n meddwl bo fi'n ffansïo ti :winc:

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 2:10 pm
gan mam y mwnci
:wps: :winc:

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 3:51 pm
gan Ray Diota
Cyn pryd bwyd mae Wil yn dweud pader
Ond yn anghofio gwagio ei flader
Mae'n bwyta ei wledd
Ond wele, ei sedd!
Ni ddylai yfed cweit gymaint o lager.

Bach yn shit, hwnna, wedi meddwl... driai eto'n y man...