Tudalen 8 o 19

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 4:30 pm
gan khmer hun
Cyn pryd bwyd mae Wil yn dweud pader
Ac yn diolch i'r Iôr am ei swper,
Cyn gofyn i Dduw
Ddod â Jac nôl yn fyw,
I ga'l canu'r hen hymns 'to 'da'i bartner.


(ag ymddiheuriadau lu os yw Jac yn dal ar dir y byw :? )

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 5:33 pm
gan Prysor
blydi gwych pawb! :lol: :lol: :lol:
mae'n syndod sut fuodd yr edefyn yma mor dawel ers cyhyd. Crac da! :D

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 5:36 pm
gan Chwadan
Prysor a ddywedodd:blydi gwych pawb! :lol: :lol: :lol:
mae'n syndod sut fuodd yr edefyn yma mor dawel ers cyhyd. Crac da! :D

Cytuno :D Plis daliwch i fynd bawb, fedrai'm barddoni ond dwi wrth fy modd yn darllen!

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 5:40 pm
gan denzil dexter
khmer hun a ddywedodd:Cyn pryd bwyd mae Wil yn dweud pader
Ac yn diolch i'r Iôr am ei swper,
Cyn gofyn i Dduw
Ddod â Jac nôl yn fyw,
I ga'l canu'r hen hymns 'to 'da'i bartner.


(ag ymddiheuriadau lu os yw Jac yn dal ar dir y byw :? )


(yn llais Gerallt Lloyd Owen) - "Ia wir... ardderchog ..yn wir ystyr y gair.. (gwich).. mae 'na dinc fach hiraethus yn perthyn i hon ndoes?..... anfarwol iawn (gwich)...... DWi AM ROI DEG MARC I HON. (Cynulleidfa'n cymeradwyo) :lol:

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 5:51 pm
gan Prysor
denzil dexter a ddywedodd:.. (gwich)..


:lol: :lol: dwi newydd chwerthin a pesychu fflobs ar hyd fy sgrin fflat! mae popeth wedi mynd yn wibli-wobli wrth i fi drio sychu nhw! :lol: :lol:

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 8:00 pm
gan lleufer
LIMRIG AM 'SWPYR HIRO'

Tra'n syllu ar sgrin ei liniadur,
Daeth Wil ar draws gwefan go fudur.
A theclynau fri,
Er mwyn ddo gael sbri,
Fin nos fel yr hero 'Y PECHADUR'.

Pob nos yn ei deits ai ar grwydur,
'Rol merched reit desbret a budur.
A theclyn 'nei law
Un mawr codi braw,
I blesio y rhai nwydus digysur.

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 10:50 am
gan khmer hun
Chwadan a ddywedodd:Plis daliwch i fynd bawb, fedrai'm barddoni ond dwi wrth fy modd yn darllen!


Be' am i ti roi llinell gynta' i ni Chwadan? Un fach amserol?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:05 pm
gan Chwadan
khmer hun a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:Plis daliwch i fynd bawb, fedrai'm barddoni ond dwi wrth fy modd yn darllen!


Be' am i ti roi llinell gynta' i ni Chwadan? Un fach amserol?

Wwww :D Oce ta, be am hon:

Mae Tony a Mike wrthi'n brwydro...

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:07 pm
gan Prysor
Tra'n syllu ar sgrin ei liniadur
A'i lygaid yn cau fel cysgadur,
Penderfynodd Wil bach
Ei bod lot llai o strach
I sgwenu pob peth lawr ar bapur.

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:15 pm
gan Prysor
Mae Tony a Mike wrthi'n brwydro
Dros iechyd a thacs a mewnfudo,
Yn deud clwydda noeth
Mewn cymylau aer poeth,
Mae'n amlwg bo'r ddau ddyn yn mwydro.