Alexander Cordell a llyfra erill am oes y Glo/Llechi/Dur...

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Alexander Cordell a llyfra erill am oes y Glo/Llechi/Dur...

Postiogan branwen llewellyn » Maw 22 Ebr 2003 11:04 am

yn gyntaf, pwy sydd wedi darllen trillogy Alexander Cordell?
Dyma ydyn nhw:
1. Rape of the fair Country
2. Hosts of Rebecca
3. Song of the earth
nes i ddarllen nhw pan oni'n rhyw 12/13, ond dy'n nhw ddim ar gyfer yr ystod oedran yna o gwbwl. Dyma ydi llyfrau gora mam medda hi, ond dwim yn meddwl de. Unwaith dwi di darllen nhw, ond ma nhw mor dda. ma'r portread o deulu a'r hanes ei hyn yn ardderchog. mae nhw jest o mor wych! onin chwerthin ac yn crio wrth eu darllen nhw, does yna ddim llawer o lyfrau yn gallu gwneud huna i fi.

cwestwin wedyn de, pwy sydd wedi darllen chwalfa? oni wrth fy modd efo fo, ond i fod o mbach yn dipresing..

oes 'na lyfra tebyg sydd yr un mor dda tybed?
pish pash potas
Rhithffurf defnyddiwr
branwen llewellyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 242
Ymunwyd: Sul 13 Ebr 2003 10:22 pm
Lleoliad: llanuwchllyn

Postiogan Rhys » Iau 24 Ebr 2003 8:35 am

Darllenais y ddau gyntaf. Roedd y Cyntaf 'Rape of the fair Country' yn wych. Stori drist am dresiediau personol ond hefyd yn rhoi syniad da a safon byw a gwleidyddiaeth y dosbarth gweithio. Teimlais bod yr ail nofel 'Hosts of Rebeca' braidd yn debyg i'r cyntaf ond gyda cymeriadau gwahanol a setting gwahanol, felly dwi heb drafferthu darllen y drydedd. Hwyrach fy mod yn gwneud cam. Beth sy'n ddiddorol i mi ydi'r ffaith fy mod nawr yn gweithio yn sir Gaerffili ac rwyf yn trafeilio tipyn i'r hen sir Gwent ac wedi gweld llawer o'r pentrefi a threfi sydd yn y nofelau.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 24 Ebr 2003 3:03 pm

Cytuno'n llwyr a Rhys. Ail un bach yn crap - rape of the fair country ar gychod am wn i.

Os ti isio llyfr tebyg beth am Cwmardy. Lewis Jones ai sgrifennodd ond mae lot gwell yn fy nhyb i.
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Rhys » Gwe 25 Ebr 2003 9:00 am

Unrhyw siawns o gael fy nghopi o Hosts of Rebeca yn ol Sbecs?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 25 Ebr 2003 11:21 am

Ma Clare di dwyn o. Dwi'n deud wrthi o hyd mae dy un di ydi o ond mae hi'n mynnu ei fod hi wedi ei phrynnu!!!

Beth am dderbyn copi o "O law i law" yn ei lle?
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Rhys » Gwe 25 Ebr 2003 1:10 pm

W'rach mai Clair sy'n iawn, a mai hi sydd pia fo achos ar ol postio'r neges bore ma, dwi'n dechre meddwl hwyrach y cefais o'n ol a bod o ar silff yn nhy fy rhieni. Ymddiheuriadau os dwi di dy gyhuddo ar gam like. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai