Dewis cynta'r clwb llyfrau
Postiwyd: Sul 22 Medi 2002 1:44 am
Yn ni wedi bod yn siarad am sbel heb ddod i benderfyniad am ba lyfr i'w drafod. Rwy'n credu bod un llyfr bob mis yn rhesymol, ac wedyn agor trafodaeth. Erbyn hyn mae digon o syniadau gyda ni i bara am chwe mis, felly mae rhaid i ni ddewis y llyfr cyntaf. Hoffwn i ddechrau trafod ar Dachwedd 1af. Gan fod mwy o nofelau Cymraeg wedi cael eu henwi hyd yn hyn na rhai Saesneg neu gyfieithiadau o ieithoedd eraill, beth am ddechrau gydag un Gymraeg? Dyma'r nofelau sy wedi eu henwi yn fwyaf aml yn y seiat lyfrau. Pa un ddylwn ni drafod yn gyntaf? Ych chi i gyd yn cytuno i drafod yr un sy'n cael y mwyaf o bleidleisiau erbyn Hydref 1af, wedyn dechrau trafod ar Dachwedd 1af?