Darllenais y llyfr hwn llynedd, stori go iawn gan Goronwy Jones dwi'n meddwl yn son am ei hanes fel Cofi ifanc di-niwed yn symud lawr i fyw yng Nghaerdydd ar ddiwedd y saithdegau. Mae'r llyfr yn hynod o ddoniol yn dilyn ei helynt ar y piss gan amlaf. Mae hefyd yn ddiddorol achos mae'n dangos tipyn o hanes diweddar Caerdydd, gyda mapiau o'r dref a hen dararndai sydd wedi hen ddiflannu ers yr ailddatblygu, heb son am ddisgrifio'r don gyntaf o fewnlifiad ni Gogs sy nawr yn bygwth 'boddi' diwylliant Eingl Caerdydd (chwedl Dan O'Neil, South Wales Echo).
Mae'n anodd iawn dod o hyd i gopi gwreiddiol, ond mae ar gael yn llyfrgell Caerdydd http://194.168.94.14/webclient.html
Llyfr gwerth ei ddarllen