Geraint a ddywedodd:Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:wastad yn galw cawl yn cawl, ond wedyn roedd stwff o'ch chi'n cael mas o din yn 'soup'.
A fi.
Aye, ond er bod cawl yn gallu bod gyfystyr â soup, nid pob cawl sy'n soup - nid soup yw CAWL, na broth 'chwaith, ond CAWL, sef cig oen, cennin, moron, panas, tato, beth bynnag arall wyt ti'n ychwanegu (ond dim blawd, dyle'r esgyrn ei d'wychu fe ddigon heb ychwanegu can).
h.y. mae Heinz (a Tesco) yn gwneud cawl tomato, maen nhw hefyd yn gnweud sgotsh broth, ond sdim neb mas na'n gwerthu CAWL Cymreig. Peth Seisnig yw lobscows, dwi ddim yn mynd i drafferthu ei drafod e' fan hyn.
Felly dyna chi ffrwyth fy noethineb i chi. On'd y'ch di'n bobl lwcus?