Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Beth yw'r peth agosaf at Beibl Cymraeg yn y Gymru gyfoes?
Yn fy marn i, sefydlu'r ysgolion Gymraeg a'r mudiadau ysgolion meithrin yw'r pethau mwyaf pwysig yn hanes yr iaith Gymraeg. O leiaf drwyddynt hwy y mae gobaith i'r dyfodol, yr un gobaith a roddodd y Beibl i'r iaith hanner mileniwm yn ôl. Ond yn osystal, y sîn roc Gymraeg a diwylliant cyfoes, a beth am yr Eisteddfod? Wn i ddim, ond heb y Beibl Gymraeg, a fuasai'r un o'r rheiny'n bodoli rwan? Dw i ddim yn gwybod.
Martin Llewelyn Williams a ddywedodd: A fydd Y Byd yn cael ei ddarllen gan filoedd ar filoedd (fel beibl William Morgan) ac yn gwella Cymraeg pob darllenydd?
Dyma fy ngobaith i am Y Byd. Mae gynnon ni'n gyffredinol (mae gen i yn sicr) Gymraeg bratiog , a gormodedd ohono. Mae'n ddyletswydd ar y cyfryngau Cymraeg gynnal safon yr iaith dros y blynyddoedd nesaf: wedi'r cyfan, beth sy'n waeth ... dim Cymraeg o gwbl, neu Cymraeg sydd wedi datblygu i fod yn ddim ond rhyw ddeialect Saesnaeg rhad?